Archif - Oriel Indigo

Y Drydedd Radd

18 Mehefin – 16 Gorffenaf 2005

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Detholiad o waith gan fyfyrwyr gradd Celfyddydau Cain NEWI. Ymysg y peintiadau, cerfluniau a gosodiadau mwy confensiynol, bydd ymwelwyr yn datgelu rhai pethau rhyfedd, gan gynnwys cwch ar dir sych a thy gwydr yn llawn pethau cofiadwy.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Mae'r sioe'n rhedeg am bedair wythnos ac yn dangos detholiad o waith gan 14 o fyfyrwyr y flwyddynol olaf a fydd yn casglu eu graddau BA (Anrh) Celfyddydau Cain Prifysgol Cymru yr haf hwn.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

"Mae bob amser yn fraint gweithio gyda artistiaid gweithgar newydd a rhannu eu gobeithion ac uchelgeisiau. Mae’r grwp sy’n graddio eleni wedi dangos yr ymroddiad sydd ei angen i sefydlu arfer celfyddyd gain personol iawn ac i wneud yn dda yn eu dewis gyrfa." dywedodd John McClenaghen, arweinydd y rhaglen celfyddydau cain.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Dechreuodd strwythur enfawr Jim Heath sy'n debyg i arch, yn llawn manylion fanwlgywir a doniol, fel hunan-bortread. Mae Jim wedi byw a gweithio ar gychod trwy gydol y rhan fwyaf o'r fywyd felly roedd yn thema briodol i'r darn. "Dw i wedi gwrthod 'minimaliaeth' o blaid 'macsimaliaeth'," gwenodd Jim. "Gallai fod yn ddechrau i symudiad newydd!" Mae'r gelfyddydwaith hunangofiannol hon yn cynnwys cerfluniau o'i bartner Jen, cyn falerina, ynghyd â'i gath a'i gi. "Mae'n ymwneud ag atgofion, breuddwydion a gobeithion – fy siwrnai i drwy fywyd."

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Canolbwyntia gwaith Tracy Ellen Piper ar weithgareddau a wnawn bob dydd mewn mannau trosiannol – grisiau, coridorau a mynedfeydd. "Mae'r amser 'coll' a'r ynni a ddefnyddir mewn symud drwy'r mannau dibwys 'ma'n fy niddori," esboniodd Tracy. "Dw i am wneud y gweithgaredd hwnnw'n gyffyrddadwy ac yn ffocws sylw, os am amser byr yn unig."

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

I'r rhai sy'n mwynhau celfyddyd fwy traddodiadol, mae digon o beintiadau yn y sioe, gan gynnwys gwaith haniaethol mawr a chryf Mo Vyse a Khalid Azmy. Yng ngwaith lliwgar Khalid, mae'n symud drwy broses o ddarganfyddiad, "neu siwrnai greadigol newydd," yn ôl ef. "Dw i wedi ymateb i unrhyw beth a fydd yn cyfrannu at ddelwedd gofiadwy. Mae fy ngwaith yn ymwneud â’r weithred gorfforol o beinio, adeiladu haenau drwy ddefnyddio darnau gwahanol – delweddau, ffotograffau a dychymyg." Mae Khalid yn bwriadu parhau â'i astudiaethau ar ôl y sioe a bydd yn rhan o'r Eisteddfod ym mis Gorffennaf.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig