28 Ebrill – 9 Mehefin 2007
Dyma bedwaredd arddangosfa Printiau Rhyngwladol Wrecsam sydd wedi ymsefydlu ei hun yn y byd o gynhyrchu printiau erbyn hyn.
Derbyniwyd 120 print o artistiaid ledled y byd, gyda gwaith poblogaidd yn dod o Seland Newydd, UDA, yr Ariannin a Chanada.
Mae’r artistiaid wedi dewis ffyrdd gwahanol o ddangos safbwynt, gan gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o gyfryngau, technegau ac ymagweddau. Maent yn ddarnau â chyfansoddiad da – a bu i sawl darn beri i aelodau’r panel chwerthin allan yn uchel.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Mae llawer o’r artistiaid yn enwog yn eu gwledydd eu hunain ac yn rhyngwladol ac maent wedi datblygu eu sgiliau i roi bywyd i’w sylwadau a’u pryderon am y byd maent yn byw ynddo.
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr arddangosfa derfynol a disgwyliaf gael fy syfrdanu a’m plesio." Anita Klein PRE (artist, cynhyrchydd printiau ac aelod o’r panel dethol).
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
01978 290666
10.00am–4.00pm (dydd Llun – dydd Gwener)