Printiau Rhyngwladol Wrecsam

22 Ionawr 2005 – 5 Mawrth 2005

Ers 2001, mae Canolfan Gelf Wrecsam ar y cyd ag Oriel Goffa Iâl wedi trefnu ac arddangos dwy arddangosfa lwyddiannus iawn, sef arddangosfa deithiol Printiau Rhyngwladol. Bydd y drydedd yn cael ei lansio yn 2005 a’r nod fel arfer yw cynhyrchu arddangosfa sy’n cynrychioli’r gorau o waith print cyfoes ar lefel rhyngwladol. Gwnaethpwyd y gwaith o ddethol y printiau ar gyfer yr arddangosfa ym mis Tachwedd 2004, gan banel o feirniaid sef John Mackechnie, Cyfarwyddwr Glasgow Print Studio, Tracy Simpson, Swyddog y Celfyddydau Gweledol yng Nghanolfan Gelf Wrecsam a Luci Melegari, Arweinydd Rhaglen yr Adran Argraffu yng Ngholeg Iâl. Eu tasg nhw oedd dethol arddangosfa drefnus allan o 800 o sleidiau a anfonwyd gan ymgeiswyr o dros 15 o wledydd.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Bydd bron i 100 o ddarnau’n ymddangos yn yr arddangosfa derfynol yn y brif oriel yng Nghanolfan Gelf Wrecsam a’r Oriel Goffa yng Ngholeg Iâl. Mae ansawdd y gwaith yn uchel iawn, ac yn tynnu sylw at amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau. Gwelir yn yr arddangosfa waith arlunwyr megis Ann Johnston-Schuster o Galiffornia, Vladimir Zuev o Rwsia a Chen Yan Long o Tsieina, yn ogystal ag argraffwyr o ogled Cymru a Sir Amwythig, gan gynnwys Ann Bridges o Ruthun a Brian Jones o Groesoswallt.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Ar ôl i’r arddangosfa orffen yn Wrecsam, bydd yn teithio o amgylch y DU mewn ymgais i gael gafael ar gynulleidfa genedlaethol a rhoi syniad o’r delweddau amrywiol y gellir eu creu yn defnyddio technegau argraffu. Gobeithiwn hefyd y bydd y sylw rhyngwladol y byddwn yn ei gael yn helpu i osod Wrecsam a gogledd Cymru ar y map fel canolfan bwysig a dylanwadol o safbwynt y celfyddydau gweledol.

Bydd cyd-sylfaenydd Printiau Rhyngwladol a’r argraffydd Anna Adair yn agor yr arddangosfa ddydd Sadwrn 22 Ionawr a bydd yn parhau tan 5 Mawrth 05.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig