Oriel Wrecsam - Oriel Indigo

Delweddau drwy garedigrwydd yr artistiaid

Zeit / Time / Amser / Czas

10 Medi – 13 Tachwedd
Cynweliad: Iau 9 Medi 6 – 8pm

Eckhard Bottger, E.R.N.A., Kurt Kornmann, Ewa Lenard, Chris Oakley, Tim Pugh, Erich Reusch, Grzegorz Tomasiak

Fel rhan o ddathliadau 40fed pen-blwydd perthynas efeillio Wrecsam gyda Märkischer Kreis yn yr Almaen eleni, mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith dau artist o bob un o’r rhanbarthau a efeilliwyd â ni, gan gynnwys Racibórz, Gwlad Pwyl ac Elbe Elster, yr Almaen. Gyda phaentio, ffilm, ffotograffiaeth, argraffu, gosodiad a cherflun, edrychwn ymlaen at gyflwyno’r arddangosfa ysgogol hon o gelfyddyd a gynhyrchwyd ar thema amser.

      
  

Delweddau drwy garedigrwydd yr artistiaid

Zeit / Time / Amser / Czas Gwahodd

Zeit / Time / Amser / Czas Gwahodd – Fersiwn PDF 373Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Dysgu

Digwyddiadau ar gyfer yr arddangosfa hon

Iau 9 Medi 6.30pm
Sgwrs Artistiaid
Ar noson y cynweliad, bydd artistiaid Kurt Kornmann, Chris Oakley a Tim Pugh yn sôn am eu gwaith yng nghyd-destun yr arddangosfa hon.

Llun Cyntaf y Mis
Digwyddiadau blasu min nos ar gyfer oedolion yn cynnig cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau creadigol / cyfryngau yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Llun cyntaf pob mis. Nid oes angen profiad o gelfyddyd. Dylid cadw lle.

Llun 4 Hydref 5 – 7pm
Cymrwch Amser
Bydd artist Chris Oakley yn arwain gweithdy a ysbrydolwyd gan ffilmiau / animeiddio, gyda’i ffilm ei hun o’r arddangosfa fel ysbrydoliaeth.
Mae’r sesiwn cyntaf am ddim yna £3 (£2 gostyngiadau)

Llun 1 Tachwedd 5 – 7pm
Amser Maith yn Ôl
Artist amgylcheddol Tim Pugh fydd yn cyflwyno’r sesiwn hwn, gan ddefnyddio’i waith yn yr arddangosfa fel man cychwyn. Bydd Tim yn cynnig ei weithdy’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn unrhyw siaradwyr / dysgwyr Cymraeg.
Mae’r sesiwn cyntaf am ddim yna £3 (£2 gostyngiadau)


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

Dydd Llun – Dydd Mercher a Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm
Dydd Iau 12.00pm – 6.45pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 4.00pm

yn ôl i'r brig