Ers 2001 mae Oriel Wrecsam ac Oriel Goffa Iâl ar y cyd wedi trefnu, arddangos a rhoi dwy arddangosfa Printiau Rhyngwladol llwyddiannus iawn ar daith. Rydym nawr wedi creu’r Daith Rithwir hon i’ch galluogi chi i gymryd golwg agosach ar arddangosfa Printiau Rhyngwladol 2005. Yr amcan oedd llunio arddangosfa a oedd yn cynrychioli’r gorau mewn printiau rhyngwladol cyfoes.
Drwy gydol y daith byddwch yn gallu rhoi clic ar unrhyw un o’r delweddau i gael golwg agosach o’r print ynghyd â’i ddimensiynau, manylion yr arlunydd a’r gost i’w brynu. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu unrhyw un o’r printiau o’r arddangosfa bydd angen i chi gysylltu â Chanolfan Gelf Wrecsam ar (01978) 292093 oherwydd rhediadau amrywiol y printiau.
Defnyddiwch y saethau i symud drwy adrannau o’r arddangosfa. Cliciwch ar y gwaith celf a arddangosir i weld fersiwn mwy. Yna gellwch fynd drwy’r gwaith celf yn yr adran honno drwy ddefnyddio’r saethau i’r chwith neu’r dde neu ddychwelyd i’r adran gyflawn i barhau i bori drwy’r arddangosfa.