Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Oriel Wrecsam - Arddangosfeydd

Mae gan Oriel Wrecsam ymrwymiad i hybu Cymreictod drwy arddangosfeydd o gelfyddydau gweledol a chymhwysol cyfoes, tra hefyd yn cyfoethogi'r amgylchedd celfyddydau lleol trwy wahodd ymarferwyr o'r radd flaenaf i weithio gyda ni ar amrywiaeth o brosiectau.

Wrth i ni fynd i gyfnod o wneud prosiectau peripatetig, mae gennym gynlluniau oddi ar y safle a fydd yn gweld ein Siop// Shop yn dod yn ganolbwynt ar gyfer ein rhaglen prosiect. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd y prosiectau hyn yn gweld y dref yn dod yn oriel i ni.

Bydd y canlynol yn eich hysbysu o'r hyn sydd i'w weld ar hyn o bryd yn ein horielau yn ogystal â'r hyn sydd gennym ar y gweill.

Segrgrair gan Paul Eastwood

17/02/2017 – 01/02/2017

Mae Oriel Wrecsam yn falch iawn o gyhoeddi Segrgrair, arddangosfa o waith newydd gan Paul Eastwood fel rhan o raglen PERICLO.

Mae Paul Eastwood yn gweithio gyda thestun, cerflunwaith, perfformiad, fideo, darluniau, argraffu a thecstilau. Ei brif ddiddordeb yw sut mae gwrthrychau a phobl yn llenwi gofod pensaernïol a’r amgylchedd o adeiladau, a sut mae gan wrthrychau’r potensial i gyfleu hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae Segrgrair yn dilyn prosiect ymchwil sy’n archwilio pa negeseuon/straeon y byddai siaradwyr Cymraeg yn dewis eu gadael i genedlaethau'r dyfodol pe byddai'r iaith Gymraeg wedi dod i ben mewn can mlynedd ac i adnabod nodweddion diwylliannol Cymru. Roedd y prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar hunaniaeth Gymreig o fewn crefftau ac arteffactau diwylliannol, gan holi a all Cymreictod fodoli o fewn gwrthrychau. Mewn taith ymchwil pellach, i Chandigarh, archwiliwyd dinas Le Corbusier, sydd wedi ei chynllunio ar gyfer India annibynnol. Datblygodd y prosiect ymchwil hwn o’r awydd i astudio sut rydym yn cael ein llywodraethu gan yr adeiladau rydym yn eu meddiannu a sut gall pensaernïaeth awgrymu dyheadau hunaniaeth ddiwylliannol.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cyfarpar fideo a neon wedi ei osod ar wal yn archwilio gweledigaeth o amgueddfa wedi ei gerfio i’r mynydd. Bydd yr amgueddfa yn cael ei phortreadu fel adfail â'r gwrthrychau diwylliannol oedd unwaith yma wedi torri neu eu herydu, gyda dim ond elfennau mewnol cerfiedig y mynydd yn gyfan. Mae’r monolog ddaw gyda hyn yn dychmygu iaith gydag ymwybyddiaeth ei hun; sy’n endid ar wahân i fod dynol. Trwy’r gwaith, daw’r iaith yn gymeriad, sydd heb gorff dynol, ac sy’n byw o fewn muriau pensaernïaeth ffuglennol y mynydd fel llais heb gorff yn trafod sut y defnyddir iaith i gofnodi diwylliant ar gyfer y cenedlaethau i ddod a’i diffyg o ran cadw gwybodaeth bwysig sy’n ehangu ar ei tharddiad, hanes a’i gallu i adnabod diwylliant gweledol.

Gair Cymraeg o’r 14 Ganrif sydd wedi diflannu yw'r teitl Segrgrair a chredir fod sawl ystyr posib i'r gair, yn eu mysg mae crair prydferth a chrair sanctaidd.

Derbyniodd Eastwood (g. 1985, Wrecsam) ddiploma ôl-radd o Ysgolion yr Academi Frenhinol yn 2014, ar ôl astudio Paentio cyn hynny yn Ysgol Gelf Wimbledon. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys The Bear Pit, Focal Point Gallery, Southend (2015); Feast of Fools, TAP, Southend (2016); Sunday Art fair, Llundain (2015); Annexinema, Bloc Projects, Sheffield a g39, Caerdydd (2015); Graphics Interchange Format, Focal Point Gallery, Southend (2015); Touching | Paul Eastwood & Max Prus, Kennington Residency, Llundain (2014); Sioe Ysgolion yr Academi Frenhinol (2014).

Mae PERICLO yn llwyfan ar gyfer risg ac arbrofi mewn celf weledol gyfoes. Yn ystod cyfnod trosiannol Oriel Wrecsam - symud o'i chartref ers 40 o flynyddoedd yn Llyfrgell Wrecsam i ddatblygiad diwylliannol newydd cyffrous ym Marchnad y Bobl Wrecsam – mae PERICLO yn ffurfio un llinyn o arddangosfeydd gyda phrosiectau teithiol eraill sy'n digwydd ar hyd a lled canol y dref a thu hwnt.

Mae PERICLO yn rhaglen arddangosfa Oriel Wrecsam a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol.

Comisiwn celfyddyd gyhoeddus gan Jonny Hannah

Mae Oriel Wrecsam wedi comisiynu’r darlunydd Jonny Hannah i gynhyrchu gwaith celf unigryw a fydd yn gorchuddio’r Siop allanol cyfan a’r gofod gweithdy cyfagos.

Bydd y gwaith newydd, yn arddull nodedig Jonny, yn dangos treftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol ac amaethyddol Wrecsam ac yn creu ochr allanol deniadol hawdd i ’w adnabod ar unwaith ar gyfer cartref lled-barhaol Oriel Wrecsam ar Stryt Caer.

Mae dadorchuddio ’r comisiwn hwn yn nodi dechrau ffordd newydd o weithio ar gyfer Oriel Wrecsam wrth i ni gychwyn ar gyfnod o arddangosfa deithiol a gwaith prosiect a fydd yn gweld canol tref Wrecsam fel oriel dros dro ar gyfer Oriel Wrecsam. Bydd y cyfnod hwn yn para rhwng dwy a thair blynedd gan arwain at agor canolfan ddiwylliannol newydd a chyffrous yn Wrecsam.

Bydd Jonny Hannah yn parhau ei berthynas ag Oriel Wrecsam ar ôl arddangos o'r blaen fel rhan o 'Nadolig Plentyn yng Nghymru' yn 2014.

Magwyd Jonny Hannah yn Dunfermline ac astudiodd yng Ngholeg Gwybodaeth Cowdenbeath, Ysgol Gelf Lerpwl ac yna yn y Coleg Celf Brenhinol. Am y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf, mae wedi bod yn ddarlunydd llawrydd, ac yn cael ei gynrychioli gan Asiantaeth Heart yn Llundain ac Efrog Newydd. Mae ei gleientiaid niferus yn cynnwys The Sunday Telegraph, The New York Times a The St Kilda Courier.

Mae'n byw’n hapus yn Southampton, gyda Sharon a'u dau blentyn, ac yn dysgu ar y cwrs BA Darlunio yn Ysgol Gelf a Dylunio Southampton Solent. Mae ei stiwdio wedi dychwelyd bellach i’w ardd gefn, yn y sied fwyaf bendigedig, sydd bellach yn Bencadlys ar y 'Cakes & Ale Press', sef diwydiant cartref sy’n cyhoeddi llyfrau, printiau, posteri, tyweli te a bathodynnau.

Cyhoeddodd Merrell Books lyfr eithaf hyfryd yn dweud y cyfan am Jonny a’i geriach, y llynedd. Ei enw yw 'Greeting from Darktown" a dylai un fod ym mhob cartref.

Gafaelwch yn Dynn a Heriwch Gyffredinedd.

Gwneuthurwr Printiau Mewn Ffocws - Nigel Morris

Bydd arddangosfeydd Gwneuthurwr Printiau Mewn Ffocws yn ein cartref dros dro yn SIOP//SHOP ar Stryt Caer. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn darparu canolbwynt ar gyfer ymwelwyr rheolaidd ac yn cynnwys gwaith gan rai o artistiaid gorau’r maes.

Nigel Morris

Mae Nigel Morris yn artist gweledol sy’n gweithio o Lannau Dyfrdwy yn gwneud paentiadau, lluniadau, printiadau a gwaith 3D. Mae’n disgrifio ei waith fel gwaith haniaethol cysyniadol, sy’n caniatáu iddo edrych ar y berthynas rhwng y berthynas iaith fel gwybodaeth ysgrifenedig a gweledol. Gellir disgrifio’r gwaith celf hyn fel “arbrofion gweledol sy'n ymgysylltu gwerthoedd artistig traddodiadol gan ddefnyddio cysyniadoldeb cyfoes.”

Y themâu sy’n amlwg yn ei waith yw perthynas testun a delwedd, gan gynnig ysgrifennu fel gwneud marciau yn unig a lluniadu fel gwrthrychau geiriau, sy’n gwrthdroi rolau bron o ran swyddogaeth ac esthetig. Mae ei ddiddordeb mewn hanes yr iaith ysgrifenedig o 7000 blynedd yn ôl i heddiw yn amlwg yn ei waith sydd ar ddangos, sy’n defnyddio’r systemau ysgrifennu o 5000 CC.

Mae mwyafrif y darnau yn cael eu sbarduno gan broses, mae creu’r gwaith yn ffactor pwysig yn ei arfer, y sgìl a’r grefft sy’n para yn y ddelwedd. Mae’r traddodiad sgìl hwn yn cael ei olrhain yn ôl i’r Mudiad Celf a Chrefft a William Morris ac mae’n berthnasol i estheteg pob darn a phwysigrwydd dehongliad gweledol a’r prydferth.

Mae Nigel Morris wedi cwblhau MA mewn arfer stiwdio Celfyddyd Gain yn ddiweddar ym Mhrifysgol Sir Gaerhirfryn ac mae wedi astudio ym Mhrifysgol Caer a Choleg Celf Caeredin.