Tra bo’r Llyfrgell yn cael ei hailwampio, bydd gofod Oriel Majenta yn teithio o gwmpas mannau amrywiol yn Wrecsam. Gwyliwch am yr arddangosfeydd yn eich bro chi!
LansioLansio Nos Lun 14 Rhagfyr 6.30pm
Canolfan Adnoddau Gymunedol Gwersyllt
Ymunwch â ni i ddathlu lansio Photomission a Shorts yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt. Bydd y ddwy arddangosfa i’w gweld yma o 4 Rhagfyr tan 30 Ionawr 2010.
Lansio
Mae’r dogfen ar gael yn y ffyrdd isod:
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
![]() |
| Shorts, Llun Llonydd |
Casgliad o ffilmiau byr yw Shorts a grëwyd gan bobl ifanc yn amrywiol weithdai gwneud ffilmiau Oriel Wrecsam. Seiliwyd y ffilmiau ar storïau byrion a gynhyrchwyd gan ddefnyddio animeiddio atal symudiad a ffotograffiaeth datguddio hir.
Gyda diolch arbennig i:
Yr Artistiaid: Chris Oakley
Ben Davies
Jude Wood
![]() |
| Photomission, Ffotograff |
Prosiect dan arweiniad artistiaid yw Photomission a drefnwyd ar y cyd rhwng Gaffney’s (Canolfan Pobl Ifanc Bryn-teg) ac Oriel Wrecsam. Mae hon yn arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd ac a ddewiswyd gan bobl ifanc yn y gymuned leol.
Y pethau, arwyddion a symbolau bob dydd sy’n rhoi ystyr ond sy’n mynd heb eu gweld yw ffynhonnell harddwch celfyddydol yn y casgliad hwn o ddelweddau.
Gyda diolch arbennig i:
Yr Artistiaid: Huw Davies and Lal Lourie
Y Gweithwyr ieuenctid: Lisa Mathews
Elise Wood
Lucy Easton
![]() |
![]() |
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.00am - 7.00pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.00am - 4.00pm Dydd Sadwrn