Oriel Wrecsam – Addysg

Mae Oriel Wrecsam yn cynnal gweithgareddau celfyddydau gweledol o safon ar gyfer grwpiau amrywiol drwy gydol y flwyddyn, yn ystod y tymor ac yn y gwyliau. Caiff gweithdai eu haddasu’n arbennig ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd.

Cysylltwch â’r Swyddog Cynorthwyol Celfyddydau Gweledol i drafod unrhyw geisiadau:
oriel.learning@wrexham.gov.uk | 01978 292093

Sut i Gadw Lle

Mae lleoedd yn brin yn yr holl sesiynau felly archebwch yn gynnar rhag cael eich siomi.

Holwch yn yr oriel, e-bostiwch neu ffoniwch ni i gadw lle:
oriel.wrecsam@wrexham.gov.uk | 01978 292093

Cadw Lle mewn Gweithdai Dysgu Ffurfiol

Mae Oriel Wrecsam yn cynnal gweithgareddau celfyddydau gweledol o safon ar gyfer grwpiau amrywiol drwy gydol y flwyddyn, yn ystod y tymor ac yn y gwyliau. Caiff gweithdai eu haddasu i weddu i wahanol oedrannau a galluoedd. Cysylltwch â Swyddog Cynorthwyol y Celfyddydau Gweledol i drafod eich gofynion.

Mae’n RHAD AC AM DDIM i ymweld â’r oriel bob amser ond, am dâl bychan, rydym yn cynnig gweithgareddau i grwpiau dan arweiniad artistiaid neu Swyddog Cynorthwyol y Celfyddydau Gweledol. Gallai eich ymweliad gynnwys gweithdy ymarferol.

Costau gweithdai fesul unigolyn:
Gweithdy ymarferol / cylchdaith: £1.50
Gweithdy ymarferol / cylchdaith gyda lluniaeth: £2
Sylwch: Taliad lleiaf am weithdy ymarferol yw £40.

Cynnig Arbennig 3 am 2 yr Hydref i grwpiau addysg ysgol / coleg / arall
Archebu dau weithdy 2011 ar gyfer eich myfyrwyr, cyn Gwyliau’r Haf, i gael trydydd gweithdy’n rhad ac am ddim*. Arbed £45 (ar sail 3 dosbarth o 30, yn derbyn gweithdy safonol o 2 awr).
*Sylwch: Telerau ac amodau perthnasol.

Grwpiau trwy Drefniant neu Achlysuron Arbennig

Mae’n RHAD AC AM DDIM i ddod â grŵp i ymweld â’r oriel ond, am dâl bychan, gallai eich ymweliad elwa ar weithdy ymarferol neu hyd yn oed Barti Celfyddydlyd ar gyfer achlysur arbennig.

Cysylltwch â Swyddog Cynorthwyol y Celfyddydau Gweledol i drafod eich gofynion.


Digwyddiadau Oedolion

Dydd Llun

Cyntaf Mae’r sesiynau blasu min nos hyn yn rhoi cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o ddulliau a chyfryngau creadigol. Cynhelir fel arfer dydd Llun cyntaf pob mis. Dim angen profiad o gelfyddyd. Gwell cadw lle £4 (£3 gostyngiadau)


Digwyddiadau Plant a Phobl Ifanc

Rydym yn cynnig gweithdai ar gyfer y blynyddoedd cynnar hyd at grwpiau o’r brifysgol – pob un wedi ei lunio i ryddhau doniau, dawn greadigol a hyder.

Ac, os na welwch chi ddim byd rydych yn ei hoffi, peidiwch â phoeni. Mae ein swyddog celfyddydau gweledol cynorthwyol yn gallu llunio gweithdai addas i’ch anghenion creadigol a chwricwlwm.

I archebu gweithdy neu wybod mwy, mae croeso i chi gysylltu: oriel.learning@wrexham.gov.uk 01978 292093


Digwyddiadau Arbennig

Hwyl Gelfyddydol Wych i Blant Bach!

Mae llawer o hwyl greadigol i’w chael i blant o dan 5 oed! Cewch roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau a gemau sy’n edrych ar amrywiol fathau o gelfyddyd.

10am – 12 noon Dydd Mercher cyntaf pob mis (yn cychwyn Mercher Tach 2)
£3 i bob plentyn bach. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy’n barod i helpu.
Byddem yn argymell eich bod yn cofrestru!

Arddangosfa Creu Cysgodion

Anturiaethau Creu Cysgodion

Y Blynyddoedd Cynnar

Mae’r sesiwn celf ymarferol yma sy’n hynod hwyliog yn archwilio’r ffilmiau a’r gosodiadau hiraethlon sy’n ysgogi’r meddwl yn yr arddangosfa Creu Cysgodion.

Gall y plant ddewis eu taith greadigol eu hunain, drwy roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau celf a gemau hwyliog. Dewch â ‘dillad chwarae’ neu ffedogau oherwydd gall hwyl greadigol greu llanast!

Y Daith Creu Cysgodion

Babanod/Iau

Bydd disgyblion yn archwilio’r ffilmiau a’r gosodiadau sy’n ysgogi’r meddwl yn yr arddangosfa Creu Cysgodion, gan dreulio amser yn teithio o amgylch yr oriel, yn archwilio’r gwaith sydd wedi’i arddangos drwy weithgareddau ymarferol, yn ogystal â thrafodaeth anffurfiol.

Yna bydd cyfle i’r ymgeiswyr greu eu gwaith celf eu hunain, wedi’i ysbrydoli gan eu canfyddiadau, i’w cymryd adref/i’r ysgol.

Arbrofion Creu Cysgodion

Colegau/Prifysgol

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn cael eu cyflwyno i’r ffilmiau a’r gosodiadau sy’n ysbrydoli’r meddwl yn yr arddangosfa Creu Cysgodion.

Mae’r prif themâu’n cynnwys cyfeiriadau hanesyddol/hiraethlon at fywyd yn yr 1950au, mawrygu’r rhyfel a’r realiti difrifol. Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o gyfryngau i gynhyrchu ymateb creadigol personol, yn dilyn ymlaen o dasgau byrion sy’n annog ymchwiliad a thrafodaeth.

Yr Arddangosfa Gwydr Gwych

Chwythu Werth Chweil!

Y Blynyddoedd Cynnar

Wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfa wydr Gwydr Gwych. Gall plant roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau celf hwyliog ac ymarferol sy’n arbrofi gyda ‘goleuni’.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys creu effeithiau gwydr staen a chynhyrchu pethau i addurno ffenestri. Dewch â ‘dillad chwarae’ neu ffedogau os gwelwch yn ddda am fod hwyl greadigol yn gallu creu llanast!

Addurniadau Gwifrau Gwych

Babanod/Iau

Bydd cyfle i greu addurniadau gwifrau wedi’u trochi a fydd wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa Gwydr Gwych.

Bydd cyfle i ddisgyblion edrych o amgylch y gwaith celf gwydr chwyth, i gael ysbrydoliaeth greadigol, cyn rhoi cynnig ar greu eu haddurniadau hardd tebyg i wydr eu hunain i’w cymryd adref.

Peintio Gwydr Hyfryd

Iau/Uwchradd

Ar ôl archwilio’r arddangosfa Gwydr Gwych gall y myfyrwyr dreulio amser yn archwilio mathau o gelfyddyd peintio gwydr.

Bydd y cyfranogwyr yn treulio amser yn creu cynllun yna’n ei drosglwyddo i asetad cyn ychwanegu lliw i greu addurn ffenestr ragorol. Gall thema sydd dan sylw yn y dosbarth ar hyn o bryd ysbrydoli’r gweithiau celf unigryw yma.

Canfyddiadau Gwydr Gwych

Coleg/Prifysgol

Bydd cyfle i fyfyrwyr weld yr arddangosfa Gwydr Gwych a chael eu hannog i gymryd rhan mewn tasgau creadigol sy’n hybu trafodaeth a dadl am y gwrthgyferbyniad rhwng Crefft a Chelf / ymarferoldeb ac esthetigaeth.

yn ôl i'r brig