Mae syniad casgliadau a chasglu wrth fodd Sue Platt. Gan ddefnyddio techneg yn dwyn yr enw Chine Collé, mewnosod papur arall ac weithiau pethau a gafwyd yng nghorff y print ar adeg argraffu, mae Sue’n creu gwaith unigryw sy’n edrych ar y cysylltiadau sy’n cael eu creu wrth osod gwahanol wrthrychau ochr yn ochr.
Mae printiau Kate yn archwilio hwyl a dulliau byw di-hid y dosbarth gweithiol ac amgylchedd o stad tai cyngor Trelái yng Nghaerdydd, lle cafodd ei magu ac a ehangodd yn raddol i gynnwys ardaloedd eraill tebyg yr ymwelodd â hwy, gan greu gwaith sy’n aml yn felancolaidd ond eto’n ddoniol.
Daw ysbrydoliaeth Heidi Mehta o brofiadau bywyd a’r teimladau sy’n eu hamgylchynu. Mae ei chorff gwaith presennol yn edrych ar themâu sy’n troi o gwmpas hanesion personol a seiliwyd ar deithio yn Japan, gan ganolbwyntio ar batrwm, diwylliant a symbolaeth Japan.
Tarddodd gwaith Sandra o ymweliadau â gerddi cyhoeddus, gan ddefnyddio ffigurau fel prif ganolbwynt. Trwy ddefnyddio dyddlyfr a chamera i gipio cerfluniau yng nghanol tirwedd oddi amgylch, yna caiff y delweddau cynyrfiadol sy’n deillio eu defnyddio i gynhyrchu cyfres o brintiau sgrin dyfrlliw.