Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (WFIS) yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant i weithwyr gofal plant sy'n ymateb i anghenion a nodwyd gan ddadansoddiad o anghenion hyfforddiant blynyddol.
Mae'r cyrsiau hyn yn cynnwys cymorth cyntaf, glanweithdra bwyd lefel 2, iechyd a diogelwch, gweithgareddau i blant dan 8 oed a chyrsiau anghenion arbennig. Cynhelir cyrsiau mewn sawl lleoliad ledled Wrecsam. Mae'r swyddog hyfforddiant, ar gael i roi cyngor am gyfleoedd hyfforddi eraill sydd ar gael yn yr ardal, gan gynnwys cyrsiau coleg ac NVQ.
Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn, neu am ffurflen neilltuo cysylltwch â'r:
Swyddog Hyfforddiant
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Tŷ AVOW
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ND
Ffôn: 01978 298345/292094
Ebost: fis@wrexham.gov.uk