Rhaglen Cryfhau Teuluoedd

Ar gyfer unrhyw deulu sy’n byw yn Wrecsam gyda phobl ifanc rhwng 10 a 14 oed

Cryfhau Teuluoedd yw rhaglen 7 wythnos i unrhyw deulu sy’n byw yn Wrecsam gyda phobl ifanc rhwng 10 a 14 oed.

Gall droi’n arddegwr fod yn adeg heriol i bobl ifanc a rhieni fel ei gilydd. Ceir tystiolaeth bod y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn cryfhau rhieni a phobl ifanc yn ystod y cyfnod newid hwn.

Sylwadau gan Rieni...

  • "Rydym wedi dysgu i wrando, treulio mwy o amser gyda’n gilydd, ac nad ydym ar ein pennau ein hunain!"
  • "Rwyf bellach yn treulio amser penodol gyda’m teulu ac yn gwrando ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud"
  • "Nid wyf wedi cael unrhyw lythyrau o’r ysgol ers i’r cwrs ddechrau"
  • "Nawr gallaf siarad heb wylltio, nid ydw i’n gweiddi gymaint"

Nawr gallaf siarad heb wylltio, nid ydw i’n gweiddi gymaint...

  • "Rydw i wedi dysgu syniadau da – fel sut i ymdopi â phwysau gan gyfoedion a phroblemau eraill"
  • "Roeddwn wrth fy modd!"
  • "Rydw i’n gwybod i beidio â gweiddi bellach pan nad ydw i’n cael fy ffordd fy hun"

Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yw rhaglen saith wythnos sy’n gweithio gyda theuluoedd i gryfhau eu perthnasau gyda’i gilydd.

Mae Rhieni a Phobl Ifanc yn cyfarfod mewn grwpiau ar wahân am yr awr gyntaf, ac yna’n dod at ei gilydd am yr ail awr am sesiwn deuluol.

Arweinir y grŵp gan grŵp o bobl o amrywiaeth o wahanol asiantaethau a chefndiroedd, sydd eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd

Mae’n cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd i:

  • Helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu sgiliau meithrin sy’n datblygu eu plant.
  • Addysgu rhieni a gofalwyr sut i ddisgyblu ac arwain eu plant yn effeithiol.
  • Rhoi’r cyfle i bobl ifanc ystyried eu golau yn y dyfodol, a gwell dealltwriaeth o’u rhieni/gofalwyr.
  • Addysgu sgiliau i bobl ifanc ar gyfer ymdrin â phwysau gan gyfoedion.

Am fanylion a phryd a ble y caiff y rhaglen nesaf ei chynnal neu am fanylion am sut i gyfeirio eich hun, neu deulu rydych yn gweithio gyda nhw cysylltwch ag:

Cydlynydd Cryfhau Teuluoedd ar 01978 295 452 neu ebostiwch parenting@wrexham.gov.uk.

Mae'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn cael ei redeg fel rhan o arbrawf ymchwil. Golygai hyn nad yw'n bosib i bob ymgeisydd fynychu'r Rhaglen.

Gwybodaeth i Deuluoedd sy'n Gwneud Cais

  • Darperir y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd i unrhyw deulu sy'n byw yng Nghaerdydd sydd â phlant rhwng 10 a 14 oed
  • Bydd rhieni/gofalwyr a phlant rhwng 10 a 14 oed yn mynychu'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd gyda'i gilydd
  • Mae'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn fwyaf priodol ar gyfer pobl ifanc sy'n byw gyda'u rhiant/gofalwr yn llawn amser, fodd bynnag gellir ystyried sefyllfaoedd eraill
  • Bydd yn rhaid i oedolion a phobl ifanc sy'n mynychu gymryd rhan mewn lleoliad grŵp am ddwy awr yr wythnos am saith wythnos
  • Gall teuluoedd wneud cais drwy ddefnyddio'r Ffurflen Gais i Deuluoedd
  • Gall teuluoedd unigol neu asiantaethau wneud cais. Gall asiantaethau wneud cais ar ran teulu y maent yn ei gefnogi gyda chaniatâd y teulu. Disgwylir i'r asiantaethau hyn gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r teuluoedd drwy gydol y rhaglen
  • Bydd gwasanaeth chwarae ar gael i deuluoedd â phlant iau
  • Bydd y trefnwyr yn asesu p'un a yw'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn addas i'ch teulu, yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd ar eich ffurflen gais
  • Caiff y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd ei darparu fel rhan o dreial ymchwil. Mae hyn yn golygu na all pob ymgeisydd fynychu'r rhaglen. Ceir rhagor o wybodaeth mewn taflen ar wahân.

Ffurflen Gais y Teulu

Ffurflen Gais y Teulu - Fersiwn Word 1.7Mb

Ffurflen Gais y Teulu - Fersiwn PDF 125Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Gwybodaeth i Gyfeirwyr

Nodweddion allweddol y Rhaglen Atgyfnerthu Teuluoedd

  • Rhaglen saith sesiwn yw SFP (dwyawr a hanner yr wythnos)
  • Bydd rhieni a phobl ifanc yn cyfarfod ar wahân am yr awr gyntaf ac yn treulio’r ail awr gyda’i gilydd mewn gweithgareddau teuluol
  • Mae’n canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau yn y teulu a gostwng ffactorau risg cysylltiedig â’r teulu ar gyfer ymddygiad anodd pobl ifanc a chamddefnyddio sylweddau

Meini Prawf a Chanllawiau Cyfeirio

Meini Prawf Cyfeirio Rhieni a Phobl Ifanc:

  • Mae SFP ar gyfer unrhyw deulu sy’n byw yn Wrecsam gyda phobl ifanc 10 – 14 oed
  • Rhaid i’r rhieni / gofalwyr a’r bobl ifanc fod yn ymwybodol o’r cyfeirio, a chytuno iddo (cofiwch sicrhau bod y rhieni a’r bobl ifanc yn llofnodi yn y lle priodol)
  • Rhaid i deuluoedd ymrwymo i fynychu pob un o’r saith sesiwn a bod yn ymwybodol y bydd grwpiau fel arfer yn rhedeg ar ôl oriau ysgol, fel arfer yn yr hwyr
  • Pynciau dan Sylw bob Wythnos yn y Rhaglen

Grŵp Pobl Ifanc

  1. Cyrraedd Nodau
  2. Gwerthfawrogi Rhieni
  3. Delio â Straen
  4. Dilyn Rheolau
  5. Delio â Phwysau Cyfoedion
  6. Pwysau Cyfoedion a Chyfeillion Da
  7. Cynnig Llaw i Eraill

Grŵp Rhieni

  1. Dangos Cariad a Phennu Terfynau
  2. Gwneud Rheolau’r Tŷ
  3. Annog Ymddygiad Da
  4. Deall Canlyniadau
  5. Adeilad Pontydd
  6. Gwarchod rhag Camddefnyddio Sylweddau
  7. Cael Cymorth gydag Anghenion Arbennig y Teulu

Grŵp y Teulu

  1. Cynnal Nodau a Breuddwydion
  2. Gwerthfawrogi Aelodau’r Teulu
  3. Defnyddio Cyfarfodydd Teulu
  4. Deall Gwerthoedd y Teulu
  5. Meithrin Cyfathrebu Teuluol
  6. Teuluoedd a Phwysau Cyfoedion
  7. Tynnu Popeth at ei Gilydd

Cyfrifoldeb Asiantaethau ar y Cyd

  1. Dim ond ar ffurflenni cyfeirio SFP fydd cyfeirebau’n cael eu derbyn i’w dychwelyd i’r cydgysylltydd yn y cyfeiriad isod.
  2. Rhaid i’r teuluoedd gytuno â’r cyfeirio. Dylai rhieni a phobl ifanc lofnodi’r ffurflen yn y lle priodol i gadarnhau hyn.
  3. Bydd gwybodaeth yn cael ei dal yn gydgyfrinachol yn unol â Deddf Gwarchod Data.
  4. Mae’n well i’r cyfeirydd gadw achos agored gyda’r teulu a gyfeiriwyd yn ystod y rhaglen.
  5. Nodwch ar y ffurflen gyfeirio unrhyw anawsterau penodol o fewn y teulu all effeithio ar redeg y sesiynau’n esmwyth, fel:
    • problemau presennol gydag alcohol neu gyffuriau
    • anawsterau dysgu
    • anawsterau llythrennedd
    • materion ymddygiad
    • materion amddiffyn plant
  6. Bydd cydgysylltydd y rhaglen yn ymweld â chartref pob teulu i asesu eu haddasrwydd i’r rhaglen. Efallai y bydd cais i’r cyfeirydd fynd gyda’r cydgysylltydd i ymweld â’r cartref.
  7. Os yw cludiant neu ofal plant yn rhwystro mynychu, bydd y cydgysylltydd yn cysylltu â’r cyfeirydd i drafod trefniadau.
  8. Yn achos rhieni sy’n mynychu’r grŵp dan orchmynion rhianta, dyletswydd y cyfeirydd / swyddog cyfrifol yw gweld eu bod yn mynychu’r grŵp.
  9. Pan fo cais am hynny, bydd y cydgysylltydd yn rhoi atborth i’r cyfeirydd ar ôl y grŵp gyda manylion cryno o bresenoldeb a’r prif ganlyniadau. Cyfrifoldeb y cyfeirydd fydd trefniadau dilyniant.

WCBC,
Parenting Team,
3rd Floor,
Lambpit Street,
Wrexham, LL11 1AY

Ffôn: 01978 729786
E-bost: parenting@wrexham.gov.uk

Ffurflen Gyfeirio

Ffurflen Gyfeirio - Fersiwn Word 115Kb

Ffurflen Gyfeirio - Fersiwn PDF 115Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig