Croeso i dudalen ariannu gofal plantNid yw gweithio oriau hir dragywydd yn dda i'ch busnes - nac i chithau. Dim ond ychwanegu at eich poendod fydd poeni am ofal plant. Mae dychwelyd i'r gwaith yn rhy fuan neu'n rhy hir ar ôl genedigaeth eich plentyn, neu ar ôl unrhyw ddigwyddiad poenydus arall yn debygol o gael effaith yn y diwedd.
Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor anodd yw dod o hyd i ddarparwyr gofal plant da a pha mor gostus y gall hynny fod. Rydym hefyd yn gwybod pa mor anodd ydwy i ddarparwyr gofal plant dalu eu costau er mwyn cynnal eu busnes. Lluniwyd y dudalen hon i helpu darparwyr gofal plant a rhieni ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i allu cael gafael ar ffynonellau cyllid sydd ar gael i chi.
Mae gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam gyllid i gynorthwyo darparwyr gofal plant sydd mewn perygl o gau, i ddarparu lleoedd a gynorthwyir i blant mewn angen, rhywfaint o arian i gynorthwyo pobl sydd yn awyddus i fod yn ofalwyr plant cofrestredig.
Lluniwyd y dogfennau y gellir cyfeirio atynt isod yn benodol i helpu darparwyr gofal plant a rhieni ddod o hyd i ffynonellau cyllid ac i egluro beth y gwnaiff y cyllidwyr ei noddi.
Gall sicrhau'r cyllid hwn fod o fudd mawr i nifer ohonoch gan y gallai gadw eich busnesau gofal plant ar agor, fe all roi seibiant gwbl angenrheidiol i deuluoedd sydd yn cael trafferthion, ac fe all roi lle gofal plant o safon dda i blant i'w cynorthwyo i ddatblygu.
Gallwn ninnau eich helpu hefyd os ydych angen unrhyw gymorth i ddod o hyd i gyllid, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni yn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ffynonellau cyllid a gynigir gan y Ganolfan Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam drwy gysylltu â:
Lynne Mort
Swyddog Cefnogi Nawdd Gofal Plant
Tŷ Avow
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ZT
Ffôn: 01978 292094 /298343
Ebost: fis@wrexham.gov.uk
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni sy'n Gweithio
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni sy'n Gweithio - Fersiwn PDF 690Kb ![]()
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni sy'n Fyfyrwyr
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni sy'n Fyfyrwyr - Fersiwn PDF 627Kb ![]()
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni Anabl neu Rieni Plant Anabl
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant i Rieni Anabl neu Rieni Plant Anabl - Fersiwn PDF 763Kb ![]()
Canllaw i Ffynonellau Cyllid ar Gyfer Darparwyr Gofal Plant
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Canllaw i Ffynonellau Cyllid ar Gyfer Darparwyr Gofal Plant - Fersiwn PDF 124Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |