Amodau Hurio Canolfannau Cymunedol

  1. Rhaid i’r unigolyn sy’n gyfrifol am dalu am hurio’r ganolfan gwblhau a llofnodi’r ffurflen neilltuo. Rhaid iddynt fod yn hŷn na 18 oed: o unigolion sy’n iau na hyn bydd angen gwarantwr.
  2. Ni chaniateir ysmygu yn unrhyw ran o’r adeilad.
  3. Bydd yr unigolyn/ion neu gymdeithas sy’n hurio’r cyfleusterau yn gyfrifol am unrhyw doriad neu ddifrod a achosir yn ystod y cyfnod hurio. Bydd rhaid i’r huriwr dalu am y difrod i’r eiddo neu offer yn llawn.
  4. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich eiddo personol. Ni fydd y Pwyllgor Rheoli yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw eitemau sy’n cael eu dwyn neu eu colli o’r adeilad.
  5. Rhaid i’r huriwr sicrhau na achosir unrhyw niwsans neu aflonyddwch gerllaw ac yn y ganolfan gymunedol ac y cedwir at drwydded yr adeilad. Ni ddylid defnyddio’r adeilad at ddibenion anghyfreithlon neu unrhyw ddiben a fyddai’n tramgwyddo’r cyhoedd. Mae trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am atal unrhyw weithgaredd a allai beryglu diogelwch y cyhoedd, er enghraifft rhwystro ymddygiad afreolus, gorlenwi’r adeilad a sicrhau y cedwir at y gofynion iechyd a diogelwch.
  6. Yn ôl y neilltuad hwn mae’n ofynnol eich bod yn gyfarwydd gyda’r gweithdrefnau diogelwch tân (gan gynnwys lleoliad y larymau tân, allanfeydd brys, offer diogelwch tân, a mannau ymgynnull y tu allan i’r adeilad) ar gyfer y ganolfan hon: arddangosir y rhain. Sicrhewch eich bod yn gyfrifol am wneud aelodau o’r grŵp yn ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn. Ni ddylech rwystro drysau allan na llwybrau. Sylwer nad oes ffôn cyhoeddus yn yr adeilad hwn.
  7. Ni ddylid dod ag offer trydanol symudol (h.y unrhyw eitem y gellid ei gysylltu â soced drydanol) i’r adeilad oni cheir ei gymeradwyo gan drydanwr cymwys a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Rheoli. RHAID i bob eitem gael ei archwilio a’i gymeradwyo fel diogel i’w ddefnyddio. (Bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig a thystysgrif a gyhoeddwyd o fewn y 12 mis diwethaf cyn neilltuo). Yn amlwg bydd y rheoliad hwn hefyd yn berthnasol i unrhyw unigolyn neu grŵp sy’n cymryd rhan yn eich achlysur, neu unrhyw un yr ydych yn is-osod yr adeilad iddynt megis masnachwyr, arlwywyr, disgos, bandiau ac ati.
  8. Mae’r hurwyr yn gyfrifol am gael trwyddedau os bydd angen cyfleusterau bar ac yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir a’r cyfreithiau trwyddedu yn llawn. Mewn canolfannau cymunedol, pan fo’r bar ar wahân i ardal y gegin bydd cost ychwanegol am ddefnyddio’r ardal hon.
  9. Rhaid i’r huriwr sicrhau bod yr holl fwyd a baratoir neu sy’n cyrraedd yr adeilad yn cael ei baratoi, ei gadw a’i weini yn defnyddio’r canllawiau a osodir gan y rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Nid yw’r Pwyllgor Rheoli, ei Swyddogion, gweinyddwyr neu asiantau yn atebol am farwolaeth neu salwch unrhyw unigolyn sy’n bwyta bwyd yn yr adeilad ac eithrio bod hynny oherwydd safon ddiffygiol o ran glanweithdra ardal baratoi bwyd priodol Canolfannau Cymunedol.
  10. Mae’r Pwyllgor Rheoli wedi yswirio’r adeilad am beryglon cyffredinol, ond dylai pob huriwr sicrhau bod unrhyw yswiriant sy’n ymwneud â damweiniau, atebolrwydd personol ac ati yn cael eu cynnwys ym mholisi yswiriant yr huriwr. Dylai’r huriwr nodi y caniateir defnyddio’r Ganolfan a’r holl offer, cyfleusterau ac amwynderau ac mai’r huriwr ac nid y Pwyllgor Ategol sy’n atebol. Ni fydd y Pwyllgor Rheoli yn atebol am farwolaeth, neu anaf personol i unrhyw ddefnyddiwr neu am unrhyw golled cysylltiedig o ganlyniad i gyflwr diffygiol y ganolfan neu ei offer, neu o ganlyniad i esgeulustod y Pwyllgor Rheoli, ei swyddogion, gweinyddwyr neu asiantau.
  11. Mae’r costau hurio presennol i’w gweld yn y ffurflen gais a chaiff y rhain eu hadolygu’n flynyddol. Bydd sesiwn yn cynnwys bore, prynhawn, neu noswaith. Gall huriwr ddefnyddio’r ganolfan yn ystod y cyfnod a neilltuwyd yn unig a rhaid iddo adael yn brydlon ar ddiwedd y cyfnod a neilltuwyd. Canlyniad peidio â chydymffurfio â hyn fydd codi ffi ychwanegol. Bydd gofyn i hurwyr adael yr adeilad yn lân a thaclus ac mewn cyflwr boddhaol ar ddiwedd y cyfnod hurio.

yn ôl i'r brig