Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn berchen ar ac yn cynnal dau ddeg pedwar o ganolfannau cymunedol o fewn cymunedau lleol ledled Wrecsam. Cânt eu defnyddio gan bobl leol, sefydliadau a darparwyr gwasanaethau'r cyngor ar gyfer pob math o weithgareddau a digwyddiadau.
Rydym yn cynnig neuaddau o faint amrywiol ar gyfer cyfarfodydd mawr, digwyddiadau i godi arian a gweithgareddau ar gyfer grwpiau gwirfoddol.
Mae'r grwpiau sy'n hurio gennym yn cynnig pob math o weithgareddau o Folddawnsio Arabaidd i ddosbarthiadau allanol Coleg Iâl.
Croesewir grwpiau o blant i'r canolfannau, a byddant yn mynychu sesiynau Activ 8, Jo Jingles, Mam a'i Phlentyn a Chylchoedd Chwarae tra bod oedolion ifanc yn mwynhau Clybiau Ieuenctid mewn canolfannau amrywiol. Cynhelir cynlluniau chwarae yn rhai o'r canolfannau yn ystod gwyliau'r haf.
Mae'r Ganolfan Gynghori, Cynghorau Cymuned, Cymdeithas Y Trigolion a'r Thenantiaid, Cynghorwyr Wardiau ac AauS yn cynnal cyfarfodydd yn rhai o'r canolfannau.
Rydym hefyd yn cynnig lolfeydd neu ystafelloedd cyfarfod llai ar gyfer grwpiau llai o bobl. Gallwn ddarparu uwch daflunydd, offer teledu/fideo a siartiau troi drosodd ar gais.
Mae gan yr holl ganolfannau gyfleusterau cegin er mwyn rhoi lluniaeth a gall rhai canolfannau ddarparu ar gyfer bwydlen fwy.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu neuaddau i grwpiau amrywiol, er enghraifft Cyrsiau Dysgu Gydol Oes, Cynghorau Cymuned, Cylchoedd Chwarae, Grwpiau Pobl Hyn, Clybiau Ieuenctid, Clybiau Crefft, Grwpiau Iechyd a Ffitrwydd, Meddygfeydd a Swyddfeydd Post ac rydym yn cynnig gostyngiad yn y prisiau hurio i'r rheini sy'n neilltuo lle'n rheolaidd.
Gall grwpiau a sefydliadau ymgeisio am brisiau rhestredig is o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac ar gyfer codi arian yn lleol.
Gellir hefyd hurio canolfannau ar gyfer un cyfarfod neu achlysur penodol.
Gellir hurio'r ganolfan ar gyfer sesiynau y bore, prynhawn neu fin nos.
Bydd y pris llawn arferol ar gyfer yr ystafell yn cael ei godi.
Gofynnir am dâl hurio sef blaendal o 25% na ellir ei ad-dalu wrth neilltuo'r neuadd. (Nid yw hwn yn berthnasol os byddwch yn bloclogi'n rheolaidd).
Mae gan y rhan fwyaf o'r canolfannau leoedd parcio am ddim.
Neuadd Goffa Brynteg, Plas Pentwyn, Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt.
Abenbury (Pentre Maelor), Acton (Ar gau ar gyfer ailwampio o Fehefin 9fed 2012 hyd Wanwyn 2013), Parc Borras, Bwlchgwyn, Hightown, Holt, Johnstown, Cylch Kingsley (Parc Caia), Llai, Merffordd, New Broughton, Parciau (Parc Bellevue, Wrecsam), Rhosddu, Rhiwabon, Tanyfron.
Cefn y Bedd, Maesgwyn (Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam), Penycae a Pentre Gwyn.
Gardden (Rhos), Little Acton and Lodge (ger Brymbo).
Am wybodaeth bellach ynghylch hurio a phrisiau ffoniwch y Swyddog Canolfannau Cymunedol ar 01978 297443 neu leisure@wrexham.gov.uk