

Mae’r ystafelloedd modern, mawr a chynhwysfawr yn y Ganolfan Gymuned hon nid nepell o Ganol Tref Wrecsam ar gael i’w llogi am brisiau rhesymol.
Canolfan Gynadledda, Hyfforddiant a Chymunedol Maesgwyn
Ffordd Lelog
Wrecsam
LL11 2BB
Neilltuo: 01978 363974
Gofalwr: Mrs A Briffa
Ebost: leisure@wrexham.gov.uk
Gweld Map
Gweld Map - Fersiwn PDF 123Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Dydd Llun – Dydd Sadwrn:- 8.30am – 11.30pm
Mae canofan gymuned Maesgwyn wedi’i lleoli mewn man dymunol iawn sy’n edrych dros Barc Maesgwyn ac mewn lle delfrydol ar gyfer ystod o ddigwyddiadau cymunedol a phroffesiynol.
Mae’r brif neuadd yn addas ar gyfer grwpiau cymunedol o faint bach i ganolig ac ar gyfer cyfarfodydd hyfforddiant a chynadledda. Mae digon o le i hyd at 60 o bobl naill ai o amgylch byrddau neu ar ffurf theatr. Mae offer yn cynnwys byrddau, cadeiriau, siartiau troi, a sgrin taflunydd.
Mae’r ystafell gyfarfod ar gael at ddibenion cynnal cyfarfodydd bach a rhoi hyfforddiant. Mae digon o le ar gyfer 15 o bobl o amgylch byrddau cyfarfod neu fwy gyda chadeiriau wedi’u trefnu ar ffurf theatr.
Mae gan y gegin hollgynhwysfawr beiriant diodydd a phopty. Os ydych yn trefnu parti, dathliad teulu, digwyddiad hyfforddi neu gyfarfod arall sydd angen arlwyo, galllwn argymhell ein tîm o arlwywyr yn y Byd Dŵr lle y cewch werth am arian ar eich bwyd. Rydych yn sicr o gael bwyd o ansawdd sydd wedi ennill safon ragorol o hylendid bwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Mae parcio pwrpasol ar gael ar gyfer 20 o geir y tu allan i’r ganolfan.
Canolfan Gymunedol Maesgwyn yw’r dewis perffaith ar gyfer eich digwyddiad chi.
Gellir neilltuo ar gyfer sesiynau yn y bore, y prynhawn neu gyda’r nos.
Pŵer ar ddisgresiwn Pwyllgor Rheoli y Ganolfan Gymuned i leihau’r crynodeb ffioedd ar gyfradd safonol o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac ar gyfer digwyddiadau codi arian lleol.
Pŵer ar ddisgresiwn Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant i leihau taliadau am neilltuo rheolaidd/bloc.
Am wybodaeth bellach ynghylch hurio a phrisiau ffoniwch y Swyddog Canolfannau Cymunedol ar 01978 297443 neu leisure@wrexham.gov.uk