Cydlyniant Cymunedol

Beth yw Cydlyniant Cymunedol?

Mae Cydlyniant Cymunedol yn disgrifio gallu pob cymuned i weithio a thyfu gyda’i gilydd mewn cytgord yn hytrach na gwrthdaro. Nod y tîm cydlyniant cymunedol yw cynnal hyn mewn sawl ffordd wahanol.

Prosiect Taclo Troseddau Casineb

Gan weithio yn unol â Chanllawiau Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’r Prosiect Taclo Troseddau Casineb yn anelu at ddileu digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r ‘nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn y Ddeddf.

Un Wrecsam

Yma cewch wybod mwy am ‘Un Wrecsam’, y term mantell ar gyfer gwaith Cydlyniant Cymunedol. Mae’r adran hon yn cynnwys Siarter Un Wrecsam, Siarter Plant a Phobl Ifanc a Chylchlythyr Un Wrecsam.

Chwalu Chwedlau

Cynhyrchwyd ystod o ddogfennau Chwalu Chwedlau i ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin ynghylch cymuned amrywiol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Strategaeth Cydlyniant Cymunedol

Darllenwch y strategaeth Cydlyniant Cymunedol ddiweddaraf ar gyfer 2011-2014. Mae’n dangos beth yw ein nodau a’n dyheadau ar gyfer y 3 blynedd sydd i ddod.

Cysylltu & Gwefannau Defnuddiol

Os hoffech siarad â ni ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud â chydlyniant, neu fod gennych gwestiwn llosg i’w ofyn, mae’n manylion cyswllt ni yma.

yn ôl i'r brig