Un Wrecsam yw’r term mantell a ddefnyddir i ddisgrifio mentrau amrywiol y Tîm Cydlyniant Cymunedol.
Prif nod Siarter o Berthyn Un Wrecsam, a sefydlwyd yn 2009, yw gwneud datganiad cyhoeddus ynghylch y gwerthoedd sydd gennym mewn perthynas â chyfartaledd ac amrywiaeth. Gwahoddir mudiadau i arwyddo’r Siarter gan ddatgan eu cefnogaeth.
Mae’r ychwanegiad diweddaraf i Siarter Un Wrecsam, sef Siarter Plant a Phobl Ifanc, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc Wrecsam. Ysgrifennwyd y Siarter gan bobl ifanc yn ein cymuned i sicrhau ei bod yn berthnasol i bob plentyn.
Dosbarthir Cylchlythyr Un Wrecsam yn chwarterol i holl aelodau’r rhwydwaith Siarter a nododd eu bod am ei dderbyn. Mae’n cynnig gwybodaeth i aelodau ynghylch materion sy’n ymwneud â chydlyniant yn y Fwrdeistref Sirol yn ogystal â digwyddiadau perthnasol eraill yn y gymuned.