Adfywio Cymunedol – Cyflwyniad

Byddai’r rhan fwyaf yn cytuno bod y cyfleoedd a ddaw i ran pobl yn ystod eu bywydau o dan ddylanwad llawer iawn o ffactorau – addysg, incwm, gwaith, tai, iechyd, hyder ac ati. Yn aml, mae’r ffactorau hyn o dan ddylanwad y lle mae pobl yn byw ynddo ac o ganlyniad mae gan rai ardaloedd fwy o bobl gyda chymwysterau is, cyflogau is, llawer o anweithgarwch economaidd, iechyd gwael ac ati.

Mae ystadegwyr y llywodraeth wedi dosbarthu cymunedau Cymru yn 1,896 o ardaloedd bychain a elwir yn Cynnyrch Ehangach Haen Is (gydag oddeutu 1,500 o bobl yr un ac yn llai fel arfer na wardiau etholiad) ac maent wedi gosod y rhain mewn trefn gan ddefnyddio ‘Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru’ (MALlC). Mae MALlC yn fodd i ni wybod gan ba rai o’n cymunedau mae’r lefelau uchaf o bobl sy’n dioddef effeithiau’r anghydraddoldebau hyn. Yn Wrecsam, mae ein bryd ar weithredu’n bendant yn yr ardaloedd hynny sydd ymysg y 30% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 25 o’r 85 o ardaloedd bach yn Wrecsam yn y dosbarthiad hwn – ac ein ardaloedd targed yw’r modd y cyfeirir at y rhain.

Adfywio Cymunedol’ – gyda’r ymadrodd hwn y disgrifir y gweithredu pendant hwn mewn ardal. Mae’n canolbwyntio ar bobl yn fwy nag ar adeiladau, ac mae’n golygu ymrwymiad a gwaith caled amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau – yn breswylwyr, gwleidyddion, grwpiau cymunedol, sefydliadau cymunedol a chyrff yn y sector cyhoeddus. Mae’r cyfryw ymrwymiad yn cynnwys cydnabyddiaeth gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus y dylid canolbwyntio yn anghyfartal ar rai ardaloedd, oherwydd bod mwy o bobl yn byw ynddynt sy’n wynebu’r materion y mae’r cyrff hyn yn ceisio mynd i’r afael â hwy, a gelwir hyn yn ‘Plygu Rhaglenni’. Mae’r dull hwn o weithredu yn defnyddio egwyddorion ‘cydraddoldebau’, sef trin pobl ar sail eu hangen yn hytrach na derbyn gwasanaeth union yr un fath â’i gilydd beth bynnag fo eu hanghenion.

Yn aml, mae ar newid pendant angen gweithredu gan fwy nag un partner, gyda’r preswylwyr yn chwarae’r prif rannau. Yr ymadrodd am y broses o ymgysylltu â phreswylwyr wrth bennu (a gweithredu ynghylch) y dulliau gorau o ddatrys materion lleol yw ‘Datblygu Cymunedol’. Mae’r broses hon yn golygu rhoi cymorth gweithredol i bobl gymryd y cam cyntaf i wella cyfleoedd ar gyfer eu cymunedau.

Mae’r adran Datblygu Economaidd yn arwain gwaith y Cyngor gydag adfywio cymunedol, a hynny trwy ddylanwadau ar y graddau y mae partneriaid y sector cyhoeddus yn ‘plygu’ eu rhaglenni gweithgarwch, a thrwy gefnogi gweithgareddau datblygu cymunedol. Mae’r ddwy elfen i waith yr adran yn ceisio llwyddo i adfywio cymunedau trwy beri newidiadau sy’n gynaliadwy — yn ariannol, yn amgylcheddol ac yn bwysicaf oll yn gymdeithasol. Felly, mae cryn sylw i swyddogaethau a gweithgareddau sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn ein cymunedau targed, y mae rhai ohonynt erbyn hyn yn fentrau cymdeithasol o gryn faint sy’n gweithio gyda’r Cyngor i gyflawni nodau cyffredin. Mae Strategaeth Adfywio Cymunedol 2009–12 y Cyngor yn arwain y gwaith hwn.

Strategaeth Adfywio Cymunedol 2009–12

Ar hyn o bryd mae’r dogfarn yma yn cael e cyfieuthu i mewn i Cymraeg.

Mae’r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Strategaeth Adfywio Cymunedol 2009–12 – Fersiwn Microsoft Word 491Kb

Strategaeth Adfywio Cymunedol 2009–12 – Fersiwn PDF 352Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig