Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Gofal Plant

Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ddarparu gwybodaeth i chi i'ch helpu i wneud y dewis gorau i chi a'ch plentyn. Mae nifer o wahanol opsiynau gofal plant y gallwch chi a'ch teulu ddewis o’u plith a gall y rhain newid dros y blynyddoedd wrth i'ch anghenion newid.

Rhaid i unrhyw ofal plant a ddarperir am fwy na 2 awr y dydd i blant hyd at 12 oed fod wedi ei gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r mathau o ofal plant cofrestredig yn cynnwys:

Y Cynnig gofal plant yng Nghymru ar gyfer plant 3 i 4 oed (30 awr)

Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer ymestyn y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru i Wrecsam gyfan o Ionawr 2019!

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ehangiad y Cynnig Gofal Plant i Gymru ar draws Sir Wrecsam gyfan o fis Ionawr 2019. Rydym yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer cyflwyniad ehangach nawr ar agor.

Mae pob rhiant cymwys sy’n gweithio ac yn byw yn Wrecsam nawr yn gallu gwneud cais i gael mynediad at y Cynnig ar gyfer eu plant, o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed nes mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed:

  • hyd at 30 awr yr wythnos o Ofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen wedi'i gyfuno yn ystod y tymor a
  • hyd at 9 wythnos o ofal plant (30 awr) yn ystod gwyliau’r ysgol drwy’r Cynnig Gofal Plant

Mae Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint yn cydweithio i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam. Gall rhieni Wrecsam wirio a ydynt yn gymwys ac ymgeisio ar-lein drwy’r system ar-lein ar y cyd a gaiff ei weinyddu gan Gyngor Sir y Fflint - www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/wrexham-childcare-offer.aspx (cyswllt allanol) ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam.

Gall darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru neu'r Swyddfa Safonau Mewn Addysg (OFSTED), a sy'n gobeithio cynnig lleoedd i blant sydd am fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant, gofrestru ar gyfer y cynnig gofal plant drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn Wrecsam drwy e-bostio childcareteam@wrexham.gov.uk.

Os oes gan rieni neu ddarparwyr gofal plant unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Wrecsam, mae croeso i chi gysylltu â’r

Gwybodaeth bellach:

Mae’r cynnig yn cynnwys 30 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth sydd yn cynnwys Hawl Bore Oes a Darpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen i blant tair a phedair oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio. Bydd plant sy’n gymwys yn gallu manteisio ar y cynnig o ddechrau’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair.

Mae’r hawl fel a ganlyn:

Hawliau
Cynllun Hawl Addysg Lwfans Gofal Plant Pryd
Hawl Cynnar 10 awr yr wythnos 20 awr yr wythnos Yn ystod y tymor - 29 wythnos o'r flwyddyn
Meithrinfa Cyfnod Sylfaen 12.5 awr yr wythnos 17.5 awr yr wythnos Yn ystod y tymor - 39 wythnos o'r flwyddyn
    30 o oriau am hyd at 9 wythnos pro rata Gwyliau ysgol

Gwarchodwr Plant

Darparwyr gofal dydd yw gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yn gofalu am blant. Maent wedi eu lleoli yn y gymuned, sy'n golygu y gall plant fynd i gylchoedd meithrin, cylchoedd ti a fi, clybiau neu ymweld â ffrindiau yn lleol.

Mae gwarchodwyr plant yn gyfrifol am ddiogelwch eich plentyn yn ogystal â'u datblygiad emosiynol a chorfforol. Dylent ddarparu cymysgedd o chwarae a phrofiadau dysgu y tu mewn a thu allan i'r cartref. Mae'n rhaid i bob gwarchodwr plant fod wedi eu cofrestru a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a fydd yn gwirio eu haddasrwydd, eu cartref a phawb dros 16 oed sy'n byw yn y tŷ.

Mae'n rhaid i warchodwyr plant gael tystysgrif gofrestru a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a thystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig ac yn pennu eu ffioedd eu hunain. Gallant gynnig gofal plant hyblyg, trwy gydol y flwyddyn, yn llawn-amser neu’n rhan-amser a thu allan i oriau ysgol. Gallant ofalu am hyd at 10 o blant o wahanol oedrannau ar yr un pryd ac felly gallant ofalu am frodyr a chwiorydd gyda'i gilydd.

Meithrinfa Dydd

Mae Meithrinfeydd Dydd yn darparu addysg gynnar a gofal plant cofrestredig i blant ifanc o pan gânt eu geni hyd at 5 oed. Maent fel arfer ar agor o ben bore tan fin nos, o ddydd Llun hyd ddydd Gwener, (rhai ar ddydd Sadwrn) drwy gydol y flwyddyn. Maent yn cynnig amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol naill ai fel gofal diwrnod llawn neu ofal rhan-amser ar gyfer babanod a phlant o oedran cyn-ysgol. Gall rhai hefyd ddarparu gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau i blant 4 i 7 a phlant hŷn weithiau hefyd.

Mae’n rhaid bod Meithrinfeydd Dydd wedi eu cofrestru a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac wedi cael tystysgrif cofrestru ganddynt. Rhaid iddynt hefyd fod â thystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a'r dystysgrif hylendid bwyd briodol. Bydd y ffioedd yn amrywio. Gall fod cymorth ar gael gyda chostau drwy gredydau treth, talebau gofal plant a lleoedd rhan-amser am ddim i blant 3 oed.

Mae gan y rhan fwyaf o Feithrinfeydd Dydd gyfleusterau i baratoi bwyd a byrbrydau i'r plant yn eu gofal. Dylent gynhyrchu bwydlen 3 wythnos o leiaf o fwyd o safon a darparu byrbrydau sy'n briodol i ba mor hir y mae’r plentyn yn mynychu.

Cylch Chwarae / Cylch Meithrin

Mae Cylchoedd Chwarae yn darparu’n bennaf ar gyfer plant 2½ oed i 5, fel arfer am 2 i 3 awr yn y bore neu'r prynhawn ac yn bennaf yn ystod y tymor ysgol. Maent yn cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol lle mae plant yn chwarae, yn dysgu ac yn cymdeithasu â'i gilydd. Mae rhieni a gofalwyr yn weithredol wrth redeg y cylchoedd chwarae ac yn aml yn ymuno â'u pwyllgorau rheoli. Cylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg yw Cylchoedd Meithrin sy'n rhoi cyfle i blant ddysgu trwy chwarae. Mae croeso i blant o deuluoedd di-Gymraeg fynychu Cylchoedd Meithrin a gallant elwa trwy ddod yn ddwyieithog.

Gofal cofleidiol/ Cylch Chwarae a Mwy / Cylchoedd Meithrin a Mwy

Yn aml cyfeirir at Gylch Chwarae a Mwy fel 'Gofal cofleidiol', a chaiff ei gynnig gan rai darparwyr fel estyniad i gylch chwarae, i gylch meithrin neu i ddarpariaeth Feithrin yr Awdurdod Lleol ac maent yn darparu gofal yn ystod hanner arall y diwrnod ysgol. Gall grwpiau weithredu am hyd at 4 awr.

Clwb y Tu Allan i Oriau Ysgol

Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn cael eu cynnal cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau, a gallant fod wedi eu lleoli yn yr ysgol neu mewn lleoliad cymunedol megis canolfan chwaraeon. Lle bo hynny'n briodol, caiff clybiau eu cofrestru a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a bydd staff chwarae cymwys neu hyfforddedig yn goruchwylio’r plant nes y cânt eu casglu gan eu rhieni neu eu gofalwyr.

Yn aml bydd gan glybiau ar ôl ysgol mewn ysgolion lefydd ar gyfer disgyblion o ysgolion eraill yn ogystal â'u disgyblion eu hunain. Os nad oes gan ysgol eich plentyn chi glwb y tu allan i oriau ysgol efallai y byddai'n werth cysylltu â chlwb lleol arall a gofyn a ydynt yn gallu darparu ar gyfer eich plentyn.

Mae’r mathau o ofal plant anghofrestredig yn cynnwys:

Grŵp Plant Bach / Cylch Ti a Fi

Nid yw'n ofynnol bod grwpiau plant bach yn cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gan fod yn rhaid i rieni neu ofalwyr aros gyda'u plant tra eu bod yno. Mae’r sesiynau yn gadael i blant gymysgu â phlant eraill a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. Er gwaethaf eu henw, nid grwpiau yw’r rhain ar gyfer plant bach yn unig - yn aml bydd amrywiaeth o blant yn mynychu o fabanod newydd-anedig i blant cyn oed ysgol.

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn galluogi rhieni a gofalwyr i chwarae ochr yn ochr â'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg. Mae croeso i rieni di-Gymraeg fynychu a chânt eu hannog i ddysgu Cymraeg gyda'u plant drwy fwynhau storïau, caneuon a hwiangerddi syml.

Mae grwpiau eraill a allai fod ar gael yn lleol ar gyfer babanod a phlant bach yn cynnwys tylino babanod, amser stori, grwpiau nofio, cerddoriaeth a symud.

Nanis

Mae nanis yn gofalu am blant yng nghartref y teulu. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn cael eu rheoleiddio ac nid oes rhaid iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru oni bai eu bod yn gweithio i fwy na 2 deulu. Gall nanis gofrestru o dan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru i fod yn weithiwr gofal plant cymeradwy, gan alluogi’r teuluoedd y maent yn gweithio ar eu cyfer i hawlio Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith neu Dalebau Gofal Plant.

Fel rhagofal ychwanegol, gallwch wirio a yw eich nani wedi ei chymeradwyo gan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru. I gael eu derbyn ar y cynllun, mae’n rhaid i bob nani feddu ar gymwysterau gofal plant llawn a bod wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf. Byddant hefyd wedi bod yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i sefydlu a ydynt yn addas i weithio gyda phlant. www.cssiw.org.uk

Au Pair

Myfyrwyr tramor rhwng 17 a 27 oed yw Au Pairs fel arfer. Nid oes ganddynt fel arfer gymwysterau gofal plant, felly ni ddylent fod yn llwyr gyfrifol am blant o oedran cyn-ysgol. Bydd Au Pairs yn byw fel un o’r teulu er mwyn dysgu Cymraeg neu Saesneg. Gallant weithio yn y cartref am hyd at 5 awr y dydd yn gyfnewid am ystafell, lwfans a 2 ddiwrnod cyfan i ffwrdd bob wythnos.

Gwarchodwyr

Fel arfer mae gwarchodwyr yn gofalu am blant tra bo’r rhieni'n mynd allan am y noson neu brynhawn. Nid oes isafswm oedran cyfreithiol, ond mae'r NSPCC yn dweud y dylent fod yn hŷn nag 16 oed. Os defnyddiwch warchodwr dan 16 oed a bod y plentyn yn cael ei anafu yn eu gofal, efallai y byddwch chi yn cael eich dal yn gyfrifol. Felly, dewiswch warchodwyr yn ofalus a gofynnwch am eirdaon os nad ydych yn adnabod y person yn dda.

Dewis y lleoliad gorau ar gyfer eich plentyn

Dylech ymweld â chynifer o leoliadau ag y bo modd cyn penderfynu pa un sy’n iawn i chi a’ch plentyn.

Ystyriwch y cwestiynau canlynol wrth ymweld â lleoliadau gyda'ch plentyn:

A yw’n groesawgar?

Yw plant yn cael eu hysgogi yno?

Pa gyfleusterau sydd yno?

A yw'n ofalgar?

Beth am y staff?

Cwestiynau eraill i'w gofyn:

Dylech bob amser wneud yn siŵr bod lleoliadau gofal plant wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae'n bosib gweld adroddiad y lleoliad ar wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.