Cefnogaeth i Rieni Ifanc
Mae nifer o wasanaethau yn Wrecsam yn cefnogi Rhieni Ifanc:
Aspire
Mae Prosiect Aspire, a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, yn gweithio ar draws Wrecsam a Sir y Fflint i gefnogi rhieni ifanc neu rieni sy'n disgwyl ac sydd rhwng 14 a 25 oed.
Mae Aspire yn brosiect partneriaethol rhwng Barnardos, Gyrfa Cymru, Mind Sir y Fflint, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Phrifysgol Glyndŵr.
Mae Aspire yn helpu rhieni ifanc i feithrin hunan-barch a hyder fel y gallant bontio yn llwyddiannus o flaenlencyndod i fod yn oedolion a chyflawni eu dyheadau er eu mwyn nhw a'u plant. I wneud atgyfeiriad, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar 01978 292 094 neu e-bostiwch fis@wrexham.gov.uk
Siop Wybodaeth
Mae'r Siop Wybodaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Dyma'r gwasanaethau eraill sydd ar gael:
- Contact, gwasanaeth iechyd rhywiol. Mae condomau am ddim ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Gwasanaeth Cwnsela Outside In, sef cefnogaeth un i un pan fo pethau’n mynd yn drech na chi, a’ch bod chi angen siarad â rhywun.
- Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais, os byddwch chi angen i rywun wrando arnoch chi.
- Tîm Gadael Gofal sy’n helpu pobl ifanc mewn gofal.
Cysylltwch â'r Siop Wybodaeth ar 01978 295600 neu infoshop@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Ymddiriedolaeth y Tywysog
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cefnogi pobl ifanc sydd ar hyn o bryd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. www.princes-trust.org.uk