Cyfleuster Chwilio Mynegai Priodasau Ar-Lein

Croeso i gyfleuster chwilio Mynegai Priodasau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

link to Clywd Family History SocietyCynhyrchwyd y cyfleuster chwilio priodasau ar-lein hwn o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Cymdeithas Hanes Teulu Clwyd (cyswllt allanol) a Swyddfa Gofrestru Wrecsam er mwyn gwneud y mynegai hwn o gofnodion ar gael yn hawdd trwy'r rhyngrwyd.

  • Yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam, mae'r Prif Arolygydd Cofrestru'n gyfrifol am gadw holl gofrestrau genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ers 1 Gorffennaf 1837 yn ddiogel (dyma pryd dechreuwyd cofnodi genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yng Nghymru a Lloegr yn swyddogol).

  • Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Teulu Clwyd yn 1980 ac mae ganddi fwy na 1100 o aelodau dros y byd.

  • Mae'r Gymdeithas yn aelod o'r Ffederasiwn o Gymdeithasau Hanes Teulu a Chymdeithas Mudiadau Hanes Teulu Cymru.

Mae'r cyfleuster chwilio priodasau'n caniatáu i chi chwilio trwy fynegai priodasau Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng y blynyddoedd 1837 a 1950.

Mae manylion llawn ar gael ar ffurf tystysgrif oddi wrth Swyddfa Gofrestru Wrecsam. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am y cyfleuster chwilio hwn, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl yn y dewisiadau chwilio a ddarperir a chliciwch y botwm 'CHWILIO'.

  
   

Gweler hefyd

Cysylltiadau allanol defnyddiol eraill

yn ôl i'r brig