Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ffurflen Gais Ar-lein am Dystysgrif Geni

 

Croeso i'r Ffurflen Gais Ar-lein am Dystysgrif Geni.

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am dystysgrif geni yn unig. Caiff eich manylion eu derbyn a'u prosesu gan Syddfa'r Cofrestrydd Arolygol.

Gwarchod Data

Caiff yr holl ddata yr ydych wedi'i ddarparu ei gadw a'i ddefnyddio dan y telerau a nodir dan Ddeddf Gwarchod Data 1998. Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd hefyd.

Darllenwch y nodiadau cyn cwblhau'r ffurflen hon os gwelwch yn dda.

Mae'r rhannau sydd wedi'u marcio â * yn orfodol a rhaid i chi eu llenwi.

Ffurflen Gais

1. Ymgeisydd
3. A ydych chi'n gwneud cais am eich tystysgrif eich hun?
A ydych chi'n gwneud cais am eich tystysgrif eich hun?*  
4. Manylion am y Dystysgrif Geni Sydd Ei Hangen
Enw Llawn Ar Enedigaeth
Dyddiad Geni
Enw Llawn Y Tad
Enw Llawn Y Fam
5. Angehnion
A. Tystysgrif Geni Safonol
B. Tystysgrif Geni Fer
Hidlwr Sbam



Pwyswch y botwm CYFLWYNO NAWR isod i gyflwyno'ch cais.

Gwybodaeth Am Dystysgrifau Geni

Tystysgrif Safonol

Mae hon yn gopi cyflawn o'r cofnod geni ac mae'n cynnwys manylion am y rhieni a'r cofrestru.

Tystysgrif Fer

Enw, cyfenw, rhyw, dyddiad geni ac ardal geni yn unig y mae’r dystysgrif fer yn ei dynodi. Mae hi’n ofynnol i chi nodi’r union ddyddiad a’r man geni ynghyd ag enw llawn a chyfenw’r sawl yr ydych eisiau ei d/thystysgrif ef/hi, yn ogystal â (mor bendant â phosibl) enwau a chyfenwau’r rhieni a chyfenw’r fam cyn priodi. Os ydych chi eisiau tystysgrif geni fer ac yn medru rhoi manylion llawn, a fyddech chi cystal â chwblhau’r ffurflen dros y ddalen. Oni roddir manylion llawn mae’n bosibl na roddir tystysgrif fer i chi.

Gwybodaeth Am Dystysgrifau Mabwysiadu

Mae manylion am fabwysiadu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cadw gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae’r rhain yn ymwneud â phobl sydd wedi cael eu mabwysiadu ers 1 Ionawr 1927 dan y Deddfau Mabwysiadu. Mae tystysgrif safonol yn gopi cyflawn o’r cofnod yng Nghofrestr y Plant Mabwysiedig sydd, yn hytrach na chynnwys manylion am rieni a chofrestru’r geni, yn rhoi’r dyddiad geni (os yw’n wybyddus) a manylion am y mabwysiad a’r rhieni sydd wedi mabwysiadu. Dangos yr enw yn unig a wna’r dystysgrif fer ac ni cheir unrhyw gyfeiriad at fabwysiadu. Dylid cyflwyno ceisiadau am Dystysgrifau Mabwysiadu yn ysgrifenedig i’r:

Adoptions Section,
Office for National Statistics,
Smedley Hydro,
Birkdale,
Southport,
PR8 2HH.

PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R FFURFLEN HON I’R PERWYL HWNNW.

Chwiliadau O'r Mynegeion Geni

Nid oes gan Gofrestrydd Arolygol mo’r staff i ymgymryd â chwiliadau o natur amhendant neu hir. Fel arfer, bydd chwiliad o’r mynegeion geni yn cael ei wneud lle nad ydyw’n cwmpasu cyfnod sy’n fwy na 5 mlynedd, a dim ond lle rhoddwyd gwybodaeth fanwl am gofrestriad y geni. Os bydd angen chwiliad ehangach, bydd angen i’r ymgeisydd neu rywun ar ei ran/rhan, wneud CHWILIAD CYFFREDINOL o’r mynegeion. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, gweler isod ac yna holwch y Cofrestrydd arolygol.

Chwiliadau Cyffredinol Yn Swyddfa'r Cofrestrydd Arolygol

Mae’r mynegeion yn swyddfa’r Cofrestrydd Arolygol yn ymwneud â genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gymerodd le yn ardal y Cofrestrydd penodol hwnnw/honno yn unig.

Mae CHWILIAD CYFFREDINOL yn chwiliad o’r mynegeion a wneir yn bersonol gan yr ymgeisydd neu gan rywun ar ei ran/rhan yn ystod cyfnod o faint fynnir o oriau olynol ond heb fod yn fwy na chwech. Gall y sawl sy’n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL, ar ôl gwneud trefniant gyda’r Cofrestrydd Arolygol, weld mynegeion cofrestrau’r genedigaethau, priodasau a marwolaethau, ond nid y cofrestrau eu hunain. Gellir cael tystysgrif ar gyfer unrhyw gofnod a welir ar ôl cwblhau ffurflen gais a thalu’r ffi berthnasol.

Os yw’r sawl sy’n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL yn ansicr ynghylch a yw cyfeiriad a gafwyd yn y mynegeion yn ymwneud â’r cofnod y mae ef/hi yn chwilio amdano, bydd y Cofrestrydd Arolygol, ar ôl cael gwybodaeth fanwl ar gyfer canfod y cofnod, yn cyfeirio at y gofrestr er mwyn cadarnhau’r manylion hynny. Ar ffurf tystysgrif yn unig y caniateir rhoi gwybodaeth ychwanegol o’r cofnod. Mae’r gost o archwilio’r wyth cofnod cyntaf wedi ei gynnwys yn ffi’r CHWILIAD CYFFREDINOL, ond codir ffi ychwanegol am bob cofnod arall a archwilir oni roddir tystysgrif o’r cofnod, ac yn yr achos hwnnw ffi’r dystysgrif yn unig fydd yn daladwy.

Ffurflen Gais Ar-lein Am Dystysgrif Geni

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Ffurflen Gais Am Dystysgrif Priodas
Ffurflen Gais Am Dystysgrif Marwolaeth
Cyfleuster Chwilio Mynegai Genedigaethau
Mynegai Swyddfa Gofrestru
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint