Grwpiau darllen

Mae grwpiau darllen yn ddi-dâl, yn gyfeillgar ac yn anffurfiol ac, os ydych chi’n hoffi trafod beth rydych wedi’i ddarllen, gallent fod yn weithgarwch delfrydol i chi.

Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnig gwasanaeth am ddim i grwpiau darllen. Mae gennym gasgliad arbennig o deitlau i grwpiau darllen i chi ddewis ohonynt. Mae hyn yn golygu bod eich grŵp yn gallu benthyca set o lyfrau ar gyfer pob cyfarfod, a gallwch ddewis teitl gwahanol ar gyfer pob mis yn ddi-dâl.

Os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, a chofrestru’ch grŵp gyda ni, bydd angen i chi benodi cydlynydd i archebu llyfrau ar eich rhan.
Mae’r cyfnod benthyca ar gyfer grwpiau cofrestredig yn hirach nag ar gyfer benthyciadau arferol. Wrth ddewis o gasgliad y grwpiau darllen, cofiwch roi cymaint o rybudd â phosibl i ni er mwyn i ni gael amser i brosesu’ch llyfrau. 

Os hoffech sefydlu’ch grŵp darllen eich hun ond yn ansicr sut i wneud hynny, cysylltwch â’r llyfrgell leol agosaf i gael cyngor.