Gwasanaethau Benthyca i Oedolion

Rhywbeth at ddant pawb

Gall holl aelodau cofrestredig y Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth fenthyca eitemau o unrhyw un o'n llyfrgelloedd.

Ffuglen Oedolion

Casgliad o nofelau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys awduron newydd a llyfrau sy'n gwerthu orau. Dewiswch o ffuglen wyddonol, arswyd, nofelau ditectif, rhamant, nofelau cowbois a llawer mwy. Beth bynnag eich chwaeth, bydd gennym rywbeth ar eich cyfer.

Llyfrau Print Bras/Llyfrau Llafar

Ar gyfer unrhyw un sy'n cael trafferth wrth ddarllen print maint safonol, pam na rhowch chi gynnig ar ein dewis o Lyfrau Print Bras a Llyfrau ar Dâp.

Llyfrau Ffeithiol i Oedolion

Chwilio am ddiddordeb newydd? Beth am yrfa newydd? A hoffech ddysgu mwy am bwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo? Wel, beth am bori yng nghanol ein casgliad ffeithiol. O gyfrifiaduron i goginio, golff a garddio - beth bynnag eich diddordeb, mae gennym y llyfrau i chi. Hefyd, am ddiwyg gwahanol, rhowch gynnig ar ein Fideos Ffeithiol.

Beth am ymweld 'r tudalennau canlynol am wybodaeth am sawl diwyg eraill y gallwch eu benthyca o unrhyw lyfrgell:-

Pecynnau Dysgu Gydol Oes.

Beth os na allaf dod o hyd i'r hyn rwyf eisiau?

Gofynnwch i aelod o staff a byddwn yn fodlon iawn i'ch helpu. Os nad yw'r eitem rydych ei heisiau ar gael yn y llyfrgell rydych yn ei defnyddio, gallwn ofyn amdani o lyfrgell arall! Mwy o fanylion.

yn ôl i'r brig