Y Rhyngrwyd
Mae'r We Fyd-Eang yn llyfrgell electronig fyd-eang anferth sy'n darparu gwybodaeth ar bob math o bynciau gwahanol. Gellir mynd at y wybodaeth hon drwy unrhyw gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â'r Rhyngrwyd.
Rydym yn cynnig mynediad AM DDIM i'r We Fyd Eang ymhob llyfrgell.
Gallwch chi fwcio sesiwn ar y Rhyngrwyd (½ awr neu awr) drwy gysylltu ag unrhyw lyfrgell. Mae angen i chi ddod â'ch cerdyn aelodaeth llyfrgell gyda chi neu rywbeth arall sy'n dangos i ni pwy ydych chi a llofnod i'r ffurflen Termau ac Amodau - dim ond ychydig o eiliadau y bydd hyn yn cymryd.
Argraffu deunydd o'r We Fyd-Eang
Mae argraffu yn costio 10c y dudalen am bob tudalen rydych yn ei hargraffu, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau hawlfraint sy'n gymwys.
E-Bost
Os dymunwch anfon e-bost ond nad oes gennych fynediad iddo gartref, beth am ddefnyddio i'r cyfleusterau yn ein llyfrgelloedd.
Gallwch chi sefydlu eich cyfrif e-bost eich hun ar y Rhyngrwyd. Gofynnwch i aelod o staff am fanylion.
Prosesu Geiriau
Os ydych yn dymuno cadw eich gwaith a'i gymryd gyda chi, gallwch brynu disgiau yn y llyfrgell. Mae disgiau'n costio £0.50. Er ein bod yn hapus i chi ddod â'ch disg eich hun, gadewch i ni ei wirio yn gyntaf rhag ofn bod feirws arno. Ni allwch gadw eich gwaith yn uniongyrchol ar ddisg caled y cyfrifiadur neu bydd defnyddwyr eraill yn gallu mynd ato. Defnyddiwch ddisg bob amser - mae unrhyw ffeiliau a gedwir ar y disg caled yn cael eu dileu!
Y pris, ac am ba hyd?
Gallwch chi neilltuo cyfrifiadur am 1/2 awr neu awr am ddim. Y gost am argraffu yw 10c y dudalen.
Beth sydd rhaid i mi ei wneud?
Naill ai neilltuwch sesiwn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod cyfrifiadur yn cael ei gadw ar eich cyfer, neu galwch heibio'r llyfrgell i weld a oes cyfrifiadur yn rhydd. Dim ond dangos eich cerdyn aelodaeth llyfrgell a llofnodi'r ffurflen termau ac amodau sydd rhaid i chi ei wneud - a dim ond ychydig o eiliadau y bydd hyn yn cymryd.
Cadw eich gwaith
Os dymunwch gadw eich gwaith a'i gymryd gyda chi, gallwch brynu disgiau yn y llyfrgell. Mae disgiau'n costio £0.50. Er ein bod yn hapus i chi ddod â'ch disg eich hun, gadewch i ni ei wirio yn gyntaf rhag ofn bod feirws arno. Ni allwch gadw eich gwaith yn uniongyrchol ar ddisg caled y cyfrifiadur neu bydd defnyddwyr eraill yn gallu mynd ato. Defnyddiwch ddisg bob amser - mae unrhyw ffeiliau a gedwir ar y disg caled yn cael eu dileu!
Llungopïo
Ar hyn o bryd, mae gennym gyfleusterau llungopïo yn y llyfrgelloedd canlynol:-
- Llyfrgell Brymbo
- Llyfrgell Brynteg
- Llyfrgell Rhos
- Llyfrgell Y Waun
- Llyfrgell Wrecsam (lliw a du a gwyn)
Costau
Du a gwyn:
A4 - 10c y dudalen
A3 - 15c y dudalen
Lliw (Wrecsam yn unig):
A4 - £1.00 y dudalen
A3 - £1.50 y dudalen
Mae cyfraddau disgownt ar gyfer swmp-gopïau. Gofynnwch yn y llyfrgell am fanylion.
Cofiwch fod hawlfraint ar ddogfennau.
Negeseuon ffacs
Gellir anfon negeseuon ffacs o Lyfrgell Wrecsam. Gofynnwch i aelod o'r staff am gymorth.
Costau
| Anfon:- (fesul taflen A4) |
Tud. 1af |
Tud. Ychwanegol |
| Prydain |
£1.50 |
£0.60 |
| Ewrop |
£2.00 |
£1.00 |
| Gweddill y Byd |
£3.00 |
£1.50 |
| Derbyn (fesul taflen A4) |
£1.00 |
£0.50 |
Mae'r holl brisiau'n cynnwys TAW.
|