|
Croeso i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam
Pwy all ymuno?
Os ydych yn byw, yn gweithio neu'n astudio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gallwch ymuno ag unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Faint mae'n costio?
Mae'n RHAD AC AM DDIM!!
Sut ydw i'n ymuno?
Galwch heibio i unrhyw un o'n llyfrgelloedd a gofynnwch am gerdyn ymaelodi. I ymuno, rydym yn gofyn i chi ddarparu 2 eitem sy'n dangos pwy ydych chi, un sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad ac un sy'n dangos eich llofnod. Gallwch ddechrau benthyca eitemau ar unwaith.
Benthyca
Ewch â'ch llyfrau at y cownter a chyflwynwch eich cerdyn/tocynnau aelodaeth. Gall oedolion fenthyca hyd at 15 eitem a gall plant dan 16 oed fenthyca hyd at 10 eitem. Y cyfnod benthyca arferol yw tair wythnos. Fodd bynnag, lle mae eitemau'n cael eu defnyddio fel rhan o gwrs astudio, mae benthyciad estynedig ar gael.
Adnewyddu
Os nad ydych wedi gorffen â'ch llyfrau, ffoniwch ni i'w hadnewyddu neu galwch heibio i'r llyfrell i'w hailstampio. Gallwch eu cadw wedyn am 3 wythnos arall os nad oes cwsmer arall wedi gofyn amdanynt.
Beth sy'n digwydd os wyf yn dychwelyd fy llyfrau'n hwyr?
Mae tâl rhesymol yn cael ei godi ar gyfer eitemau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr. Mae hyn yn annog pobl i ddychwelyd eu heitemau fel eu bod ar gael i gwsmeriaid eraill. Os byddwch yn dychwelyd eich eitemau mewn pryd, neu'n eu hadnewyddu os ydych eu heisiau am gyfnod hwy, ni fyddwch yn derbyn unrhyw lythyrau i'ch atgoffa eu bod yn hwyr.
Beth arall sydd ar gael i mi?
Pan fyddwch chi'n ymuno â'ch llyfrgell leol, gallwch ddefnyddio pob un o'n llyfrgelloedd a dechrau mwynhau'r holl adnoddau, cyfleusterau, gwasanaethau a gweithgareddau rydym yn eu cynnig - mae byd cwbl newydd yn aros amdanoch!
Edrychwn ymlaen at eich gweld.
|