Mae ein Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn darparu ffordd hyblyg i chi ddysgu. Mae'n rhoi rhyddid i chi astudio ble, pryd a sut bynnag y dymunwch. Gallwch ddysgu sgiliau newydd neu ddiweddaru eich gwybodaeth bresennol.
Lleolir y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn Llyfrgell Wrecsam. Mae casgliadau llai o ddeunyddiau Dysgu Agored yn Llyfrgelloedd Y Waun a Rhos. Mae Llyfrgell Y Waun yn ganolfan Cyswlltdysgu hefyd.
Mae pecynnau dysgu agored yn cynnwys meysydd fel:
Mae pob pecyn Dysgu Agored yn uned gyflawn sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i astudio'n llwyddiannus. Gall y cynnwys fod yn llyfrau gwaith, casetiau, fideos neu feddalwedd cyfrifiadur.
Nid oes un!! Gellir benthyca unrhyw becyn yn rhad ac am ddim a gellir ei gadw am dri mis ar y tro.
Mae cyfrifiaduron ar gael ymhob llyfrgell - am ddim!
Mae gennym wybodaeth am gyrsiau lleol a chenedlaethol a manylion cyswllt ar gyfer darparwyr addysg lleol. Gellir gwneud trefniadau ar gyfer cyfarwyddyd pellach, cefnogaeth tiwtor neu ennill cymwysterau.
Mae ein staff yn hapus i helpu a chynghori ar ddewis a defnyddio deunyddiau.
Y Brifysgol Agored yw un o'r mudiadau mwyaf ym Mhrydain sy'n darparu addysg ran-amser. Ym mhob pwnc, bron, mae mwy o bobl yn dewis astudio'n rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored na gydag unrhyw brifysgol arall.