Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaeth Gwybodaeth

 

A hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf, yn gyflym? Wel, beth am ymweld â'n Llyfrgell Gyfeiriol yn Llyfrgell Wrecsam? Rydym yn ateb tua 60,000 o gwestiynau bob blwyddyn drwy ddarparu gwybodaeth brintiedig ac electronig sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau.

Yn eu plith y mae:

  • Astudiaethau Lleol
  • Budd-daliadau Lles
  • Y Celfyddydau
  • Cyfleoedd addysgol
  • Cymdeithasau a mudiadau lleol
  • Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Y Ganolfan Gwybodaeth Gyhoeddus am Ewrop
  • Gwybodaeth am blant
  • Gwybodaeth ar gyfer busnesau - Llinell Fusnes
  • Y Gyfraith e.e. Deddfau Cyhoeddus a Chyffredinol
  • Gyrfaoedd
  • Hel Achau
  • Iechyd
  • Teithio

Mae'r canlynol gennym hefyd:

  • CD-Roms e.e. Cyfrifiad Prydain a Mynegai Cenedlaethol 1881
  • Gwybodaeth am Ysgolion
  • Gwybodaeth ar gyfer twristiaid
  • Llyfrau ffôn y DU
  • Mapiau
  • Papurau newydd a chylchgronau

Ble rydyn ni

Mae'r Llyfrgell Gyfeiriol ar lawr cyntaf Llyfrgell Wrecsam. Fodd bynnag, mae gan bob llyfrgell yn y sir gasgliadau cyfeiriol ac mae ganddynt fynediad i'r ystod eang o wybodaeth sydd ar gael yn Wrecsam. Mae gan bob llyfrgell fynediad i ffynonellau eang o wybodaeth ar y Rhyngrwyd.

Gallwch chi wneud ymholiadau drwy alw i mewn, drwy ffonio, drwy ysgrifennu llythyr, neu drwy anfon neges ffacs neu e-bost. Rydym bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, felly, cysylltwch â ni yn Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam ar 01978 292091, neu drwy e-bost ar llyfrgell.gyfeiriol@wrexham.gov.uk

Ni ellir cymryd eitemau cyfeiriol allan o'r llyfrgell oherwydd bod eu hangen ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae gennym nifer o fyrddau lle y gallwch chi weithio ac mae cyfleusterau llungopïo lliw a du a gwyn ar gael ar eich cyfer.

Am fanylion ynghylch Gwybodaeth am Blant, ewch i'n tudalen Canolfan Gwybodaeth am Blant.

Gwybodaeth am Ewrop

A oes angen y wybodaeth ddiweddaraf am Ewrop arnoch chi? Beth am edrych ar gasgliad EPIC yn Llyfrgell Wrecsam, sef y Casgliad Gwybodaeth Gyhoeddus am Ewrop. Mae eich llyfrgell EPIC leol yn rhan o rwydwaith cenedlaethol sy'n rhoi gwell mynediad i wybodaeth am Ewrop ar garreg drws.

Gallwn eich helpu chi gydag unrhyw ymholiad Ewropeaidd, yn amrywio o Gynciau fel ehangn i ddeddfwriaeth a rhaglenni Ewropeaidd, o fanylion am bolisïau Ewropeaidd i wybodaeth am grantiau a benthyciadau Ewropeaidd.

Ffoniwch ni am y wybodaeth ganlynol:

  • Polisïau a rhaglenni Ewropeaidd
  • Ehangn
  • Grantiau a chyllid Ewropeaidd
  • Gweithio neu ymddeol mewn gwlad arall yn yr UE
  • Deddfwriaeth a Ewropeaidd
  • Ffeithiau a ffigurau am yr UE
  • Cyfleoedd astudio yn Ewrop

Cyhoediadau Ewropeaidd

Beth am bori yn ein casgliad arbenigol o gyhoeddiadau Ewropeaidd. Mae gennym gopïau o rai o gyhoeddiadau'r Comisiwn Ewropeaidd hefyd, ac mae'r rhain yn rhad ac am ddim.

Ble mae'r casgliad EPIC?

Mae'r casgliad EPIC yn y Llyfrgell Gyfeiriol yn Wrecsam. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam ar 01978 292091, neu drwy e-bost ar: llyfrgell.gyfeiriol@wrexham.gov.uk)

'Llyfrgell Gyswllt' Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gallwch chi gael mynediad i ddogfennau swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 'Llyfrgell Gyswllt' Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam.

Rydym yn derbyn copïau o gyhoeddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddir gan ei amryw bwyllgorau, yn eu plith y mae:

  • Amaethyddiaeth a Datblygiad Cefn Gwlad
  • Datblygiad Economaidd
  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Llywodraeth Leol a'r Amgylchedd
  • Addysg a Hyfforddiant Ôl-16
  • Addysg Cyn 16, Ysgolion a Dysgu Cynnar
  • Archwiliad
  • Cyfle Cyfartal
  • Materion Ewropeaidd
  • Deddfwriaeth
  • Safonau Ymddygiad
  • Y Pwyllgorau Rhanbarthol

Gallwch hefyd ddarllen "Y Cofnod Swyddogol" ac "Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig" (sy'n cyfateb i Hansard) ynghyd â chyhoeddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gyfarwyddiaeth Ystadegol.

Mae cyhoeddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael ar y Rhyngrwyd hefyd:

www.cymru.gov.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam ar 01978 292091, drwy ffacs ar 01978 292611, neu drwy e-bost ar: llyfrgell.gyfeiriol@wrexham.gov.uk)

Canolfan Gwybodaeth Ddemocrataidd

A ydych yn dymuno cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd? Mae'r Ganolfan Gwybodaeth Ddemocrataidd yn Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam yn wasanaeth newydd sy'n gallu darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Mae pedair prif elfen i'r casgliad:

  1. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  2. Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  3. Llywodraeth Ganolog Llundain
  4. Yr Undeb Ewropeaidd a'i sefydliadau

Mewn geiriau eraill, mae'r pedair haen o lywodraeth yn cael eu cwmpasu gan y casgliadau sy'n ffurfio'r Ganolfan Gwybodaeth Ddemocrataidd.

Yn ychwanegol, mae cyfrifiadur y Ganolfan Gwybodaeth Ddemocrataidd ar gael i chi gael mynediad i wybodaeth ar y Rhyngrwyd sy'n ymwneud ag agweddau ar ddemocratiaeth leol.

Mae adran yn y Ganolfan Gwybodaeth Ddemocrataidd ar gyfer dogfennau ymgynghorol, sydd yn ei gwneud hi'n haws i chi wneud sylwadau ar gynlluniau sy'n debygol o effeithio arnoch chi mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn Llyfrgell Gyfeiriol Wrecsam ar 01978 292091, neu drwy e-bost ar: llyfrgell.gyfeiriol@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Ein Newyddion
Digwyddiadur
Cysylltiadau Llyfrau
Llyfrgell Brymbo
Llyfrgell Brynteg
Llyfrgell Cefn Mawr
Llyfrgell Coedpoeth
Llyfrgell Gresffordd
Llyfrgell Gwersyllt
Llyfrgell Llai
Llyfrgell Owrtyn
Llyfrgell Rhiwabon
Llyfrgell Rhos
Llyfrgell Wrecsam
Llyfrgell Y Waun
Cysylltwch â Llyfrgelloedd
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint