Ganed George R.R. Martin ym 1948 yn Bayonne, New Jersey. Dechreuodd ysgrifennu pan oedd o’n ifanc iawn, gan werthu storïau am angenfilod i blant eraill ei gymdogaeth am geiniogau; roedd hynny’n cynnwys darlleniadau dramatig hefyd. Yn ddiweddarach, aeth ati i feithrin diddordeb angerddol mewn llyfrau comics ac aeth ati i’w casglu cyn dechrau ysgrifennu storïau ffuglen ar gyfer ffansîns comics.
Ym 1970 dyfarnodd Prifysgol Northwestern, Illinois, B.Sc. i Martin mewn Newyddiaduraeth. Gan ei fod o’n wrthwynebydd cydwybodol aeth ati i wneud gwasanaeth amgen gyda VISTA, rhwng 1972 a 1974, ac roedd o wedi’i atodi i Sefydliad Cymorth Cyfreithiol Cook County. Trwy gydol y 1970au pan oedd o’n gwneud amryw swyddi, bu’n ysgrifennu’n rhan amser cyn penderfynu mynd yn awdur llawn amser ym 1979.
Ym 1986, dechreuodd ymwneud â byd Hollywood, gan gynhyrchu a golygu llawer o raglenni adnabyddus fel Beauty and the Beast a Twilight Zone.
Ar hyn o bryd, mae Martin yn byw yn Santa Fe, Mecsico Newydd. Mae o’n aelod o Awduron Ffuglen Wyddonol a Ffantasi America ac hefyd o Urdd Awduron Gorllewin America. Yn ddiweddar cafodd ei saga ffantasi epig, A Song of Ice and Fire, ei haddasu i’w dangos ar y teledu. Teitl y rhaglen oedd Game of Thrones, gyda Sean Bean yn chwarae’r brif ran.
