Newydd

Enillwyr Darllen Difyr Wrecsam

Pleidleisiodd darllenwyr ardal Wrecsam yn eu cannoedd yn ddiweddar gan ddewis eu hoff lyfrau o blith rhestr ddethol o ddeuddeg o lyfrau o Gymru, chwech yn Gymraeg a chwech yn Saesneg.

A’r enillydd yw...

Yr hoff lyfr o blith y detholiad Cymraeg oedd Llafnau gan Geraint Evans o Geredigion.  Yr hoff lyfr o blith y rhai Saesneg oedd Driftwood gan Aled Lewis Evans o Wrecsam. Cyflwynwyd tlws i’r ddau enillydd mewn digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam yn diweddar.

Trefnwyd yr ymgyrch gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru. Dywedodd y Cyngh. Bob Dutton OBE, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad, “Mae hwn wedi bod yn gyfle rhagorol i ddarganfod doniau cyfoethog awduron Cymru, ac yn enwedig yn Wrecsam! Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru am ei gefnogaeth ariannol i’r cynllun cyffrous hwn”.

Casgliad Gofalwyr

Mae gan ofalwyr yn ardal Wrecsam gyfle i gael mynediad gwell i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol yn sgil sefydlu’r Casgliad Gofalwyr. Mae’r teitlau yn y casgliad yn amrywio o bynciau fel awtistiaeth a dementia i hawliau, budd-daliadau ac agweddau emosiynol ar fod yn ofalwr llawn-amser.

Mae’r Casgliad Gofalwyr yn cael ei gadw yn Llyfrgell Wrecsam ond mae modd cael copïau drwy unrhyw un o’r 11 llyfrgell gymunedol, y llyfrgell deithiol a’r gwasanaeth Cyswllt Cartref, sy’n ymweld ag unigolion yn ei cartrefi eu hunain.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.

yn ôl i'r brig