Mae gan ofalwyr yn ardal Wrecsam gyfle i gael mynediad gwell i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol yn sgil sefydlu’r Casgliad Gofalwyr. Mae’r teitlau yn y casgliad yn amrywio o bynciau fel awtistiaeth a dementia i hawliau, budd-daliadau ac agweddau emosiynol ar fod yn ofalwr llawn-amser.
Mae’r Casgliad Gofalwyr yn cael ei gadw yn Llyfrgell Wrecsam ond mae modd cael copïau drwy unrhyw un o’r 11 llyfrgell gymunedol, y llyfrgell deithiol a’r gwasanaeth Cyswllt Cartref, sy’n ymweld ag unigolion yn ei cartrefi eu hunain. Mae casgliadau llai ar gael ym mhob cangen bron.
Am ragor o wybodaeth am y Casgliad Gofalwyr, cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer gofalwyr ar gael ar www.wrecsam.gov.uk/gofalwyr.
Rhestr ddethol o lyfrau
Rhestr ddethol o lyfrau – fformat PDF 57Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.