Gallwch ymuno 'r llyfrgell unrhyw oed, ac mae am ddim! Gofynnwch am gerdyn aelodaeth wrth y cownter. Gofynnwch i riant neu warchodwr lofnodi eich cerdyn a dewch dau beth sy'n dangos pwy ydych chi (un sy'n dangos enw a chyfeiriad ac un sy'n dangos y llofnod). Cyn gynted ag y byddwch yn ymuno 'r llyfrgell, rydych yn dod yn 'Llowciwr Llyfrau' a gallwch chi fenthyca llyfrau ar unwaith.
Ydych chi'n mentro lawrlwytho'r taflen Llyfrgell Plant
Llyfrgell Plant - Fersiwn PDF 592Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Mae gennym lyfrau cyfeiriol a llyfrau prosiect i chi eu defnyddio yn y llyfrgell hefyd. Gallwch ddefnyddio'r rhain i ddod o hyd i wybodaeth ac maent yn wych os oes gennych waith cartref neu brosiect. Peidiwch ag anghofio, mae gennym CD-ROMs a mynediad i'r Rhyngrwyd mewn rhai o'n llyfrgelloedd i'ch helpu gyda'ch gwaith cartref.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer 'Llowcwyr Llyfrau' yn ein llyfrgelloedd. Dyma rai o'r pethau hwyliog rydym yn eu trefnu i chi:
Mae gan sawl llyfrgell gyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i brosesu geiriau yn rhad ac am ddim.
Am wybodaeth am wasanaethau i blant yn ardal Wrecsam, ewch i'n tudalen ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Ein nod yw gwella llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymdeithasol plant cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.
Mae rhannu llyfrau â babanod a phlant bach yn ffordd fendigedig o wella’u sgiliau iaith a helpu plant i ddeall y byd o’u cwmpas. Yn wir, y pum mlynedd gyntaf yw’r adeg orau i ddysgu sut i siarad a daw’r rhan fwyaf o iaith plentyn gan yr oedolion o’u cwmpas.
Mae babanod a phlant bach sy’n mwynhau llyfrau yn dechrau darllen ynghynt ac yn gwneud yn well yn yr ysgol. Beth am alw heibio i’r llyfrgell leol i weld y casgliad bendigedig o lyfrau sydd ar gael i fabanod?!
Mae Dechrau Darllen yn rhaglen genedlaethol a gydlynir gan Booktrust. Mae’n darparu pecyn o lyfrau’n rhad ac am ddim i fabanod 7 i 9 mis oed ac i blant bach 18 i 24 mis oed, a ddosberthir gan Ymwelwyr Iechyd mewn meddygfeydd babanod. Mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau i rieni/gofalwyr ac yn hyrwyddo hoffter gydol oes o lyfrau. Cydlynir y cynlluniau’n lleol gan y Gwasanaeth Llyfrgell, sy’n ychwanegu gwahoddiad i ymaelodi â’r llyfrgell ynghyd â gwybodaeth am lyfrgelloedd at y pecyn Dechrau Darllen.
Mae gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam ddau Lyfrgellydd Blynyddoedd Cynnar sef Jo Elliot ac Anna Aram. Nhw sy’n gyfrifol am Dechrau Darllen yn sir Wrecsam.
Mae Jo ac Anna yn gweithio yn y gymuned, yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn bennaf, yn cwrdd â phlant a’u rhieni/gofalwyr e.e. mewn cylchoedd chwarae, meithrinfeydd, grwpiau plant bach a meddygfeydd babanod i hyrwyddo darllen a llyfrgelloedd.
Maent yn cynnal sesiynau wythnosol mewn llyfrgelloedd gan ddod â storïau’n fyw drwy lyfrau llawn lluniau lliwgar, llyfrau rhyngweithiol, llyfrau mawr a sachau stori. Maent yn cael andros o hwyl yn creu cynnwrf yn y llyfrgell gydag offerynnau cerdd, rhigymau sydd â symudiadau bywiog a gweithgareddau crefft!
Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, blant cyn oed ysgol, dewch draw i’r sesiynau stori a rhigwm a restrir isod:
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Jo neu Anna yn Llyfrgell Wrecsam ar:
01978 292643 neu anfonwch e-bost: llyfrgell@wrexham.gov.uk
Cofiwch, eich llyfrgell yw'r man cychwyn gorau. Mae dewis da o lyfrau yno ar gyfer babanod, plant bach a'r teulu cyfan.
Gallwch chi ymuno am ddim. Gwnewch hynny heddiw! Clybiau Gwaith Cartref