Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi gwasanaeth newydd sy'n gadael i aelodau'r Llyfrgell lawrlwytho llyfrau llafar AM DDIM! Hoffech chi wrando ar lyfrau poblogaidd megis One Day David Nicholls ar eich iPod? Darllenwch ymlaen…
Byddwch angen:
- Cerdyn Aelodaeth Llyfrgelloedd Wrecsam
- Cyfrifiadur
- Cariad at lyfrau!

Pam ddylwn i lawrlwytho Llyfr Llafar o Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam?
- Mae'n hawdd cael gafael arnynt o www.wrecsam.gov.uk/lyfraullafar
- Gallwch eu lawrlwytho unrhyw le ac unrhyw bryd
- Gallwch ddewis o fwy na 600 o deitlau cyflawn
- Teitlau newydd bob mis
- Ffeiliau MP3 i'ch cyfrifiadur, iPod, peiriant MP3 neu ffôn symudol
- Cewch 'fenthyg' hyd at 10 llyfr ar yr un pryd a'u cadw am 3 wythnos
I ddefnyddio'r gwasanaeth newydd rhagorol yma, dilynwch y camau syml isod:
- Ewch i unrhyw un o Lyfrgelloedd Wrecsam ac agor cyfrif Llyfrgell Newydd ar unrhyw rai o'r cyfrifiaduron cyhoeddus. Neu gallwch ebostio wrexham.library@wrexham.gov.uk gan roi rhif eich cerdyn llyfrgell. Bydd yn creu manylion eich cyfrif ac yn ebostio'r rhain atoch o fewn dau ddiwrnod gwaith.
- Unwaith y byddwch wedi derbyn manylion eich cyfrif gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth drwy fynd i'r adran Eich Manylion ar wefan y Llyfrgell neu gallwch eu cael yn uniongyrchol o http://wrexham.oneclickdigital.eu
- Lawrlwytho download manager
yn ôl i'r brig