Dolenni i adnoddau eraill yr UE

Europa

Europa yw porth y Rhyngrwyd i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r wefan hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd gan wahanol sefydliadau a chyrff yr UE. Mae rhywbeth i bawb gyda chanllawiau defnyddiol a ffeithlenni sy’n egluro pob agwedd ar yr UE gan gynnwys polisïau a swyddogaeth y sefydliadau.

Y Comisiwn Ewropeaidd yn y DU

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd swyddfeydd, sy’n cael eu galw’n Gynrychiolaethau, yn holl Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cynrychiolaeth y DU yn Llundain ond mae Swyddfeydd hefyd yng Nghaerdydd, Béal Feirste a Chaeredin.

Y swyddfeydd hyn sy’n siarad ar ran y Comisiwn fel ei lais yn y DU. Mae hyn yn cynnwys darparu datganiadau cefndirol i’r cyfryngau yn ogystal â sylwadau swyddogol ar faterion perthnasol i’r Comisiwn. Bydd y Gynrychiolaeth yn rhoi adroddiad i’r Comisiwn ym Mrwsel ar ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yn y DU.

Rhwydwaith Mentergarwch Ewrop

Mae’r rhwydwaith hwn yn cynnig “siop un alwad” i ddiwallu anghenion BBaCh a chwmnïau yn Ewrop am wybodaeth masnach yr UE, ac mae hynny’n cynnwys y rhai yma yn y Gogledd.

Mae gan y rhwydwaith dros 200 o fannau cysylltu ym Marchnad Unigol yr UE o 27 o wledydd ynghyd â’r gwledydd sydd wedi gwneud cais fel Twrci a Gweriniaeth Macedonia o’r hen Iwgoslafia. Mae’r ganolfan yn rhoi gwybodaeth a chymorth i gael gafael ar bolisïau, rhaglenni a chyfleoedd ariannu’r UE trwy amrywiaeth o offer fel:

  • Chwiliadau Partner Busnes mewn technoleg
  • Cronfa ddata Cydweithrediad Busnesau ar gyfer cysylltiadau masnach ar draws ffiniau
  • Gwasanaeth gwybodaeth am dendrau i dynnu eich sylw at dendrau sector cyhoeddus yn y DU ac ar hyd a lled Marchnad Unigol Ewrop
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth yr UE e.e. Nodau CE, rheoliadau deunydd pacio
  • Gwasanaethau Y&D cydweithredol
  • Cronfa ddata Canfod Grantiau

Gwasanaeth Arwyddbyst Dinasyddion

Mae’r Gwasanaeth Arwyddbyst Dinasyddion yn cynnig gwybodaeth a chyngor penodol i bobl ar eu hawliau yn y farchnad fewnol. Felly, os ydych yn symud yn Ewrop a bod gennych ymholiadau ynghylch hawliau preswylio, cael eich pensiwn, manteisio ar ofal meddygol neu sicrwydd nawdd cymdeithasol, cofrestru ceir a thrwydded yrru, gall y gwasanaeth eich rhoi ar ben ffordd. Pan fyddwch yn gofyn cwestiwn bydd arbenigwr yn eglurhau’r rheolau perthnasol ac yn eich cyfeirio at y corff sydd orau i gynorthwyo datrys y broblem.

Mae’r gwasanaeth yn hollol ddi-dâl ac mae modd ei gael dros y ffôn a thrwy e-bost. Ffôn: 00800 67 89 10 11 neu anfon e-bost trwy’r wefan.

EU Tube

Sianel unswydd ar YouTube, mae EU Tube yn rhoi amrywiaeth o fideos yn dangos y prif faterion yn Ewrop ar gael i’r cyhoedd. Gyda bron i 200 fideo ar y wefan yn cwmpasu pynciau fel sefydlu’r Undeb Ewropeaidd, materion newid yn yr hinsawdd, materion ieuenctid a defnyddwyr, i ddathliadau o ffilmiau Ewropeaidd, mae rhywbeth i bawb. Mae’r clipiau’n addysgiadol, ymarferol ac yn rhoi cipolwg ar waith yr UE.

Teledu Europarl

EuroparlTV yw gorsaf deledu Senedd Ewrop ei hun yn darlledu drwy’r rhyngrwyd. Mae deunydd byw ac archifol ar y pedair sianel sydd ar gael. Y sianelau yw: Eich Senedd, Eich Llais, Ewrop Ifanc a’r Senedd yn Fyw.

Swyddfa Senedd Ewrop yn y DU

Mae Swyddfa Senedd Ewrop yn y DU yn cynyddu ymwybyddiaeth o Senedd Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd yn gyffredinol ac yn annog pobl i bleidleisio yn etholiadau seneddol Ewrop. Bydd y swyddfa’n ateb ymholiadau ynghylch y Senedd ac yn cynhyrchu gwybodaeth am y Senedd.

Dadl Ewrop

Dadl Ewrop yw eich cyfle i fynegi eich barn ar Ewrop ac i gynorthwyo rhoi cyfeiriad i ddyfodol Ewrop. Mae’r fforymau ar-lein yn rhoi cyfle i chi rannu’ch meddyliau gyda staff o sefydliadau amrywiol yr UE a hefyd siarad â phobl eraill.

yn ôl i'r brig