Athrawon

Ysgolion, Colegau a Grwpiau Ieuenctid.

Mae ysgolion a cholegau’n addysgu mwy a mwy ynghylch dinasyddiaeth a’r Undeb Ewropeaidd ond gall fod yn anodd cael hyd i adnoddau a chefnogaeth. Pa un ai ydych yn dysgu gwybodaeth sylfaenol iawn neu’n dysgu pynciau cymhleth fel y gyfraith neu wleidyddiaeth mae gennym rywbeth i helpu naill ai chi neu eich myfyrwyr.

Adnoddau

Mae gan Ewrop Uniongyrchol amrywiaeth eang o adnoddau a ysgrifennwyd yn ar ffurf hawdd ei deall ar gyfer amrywiol ystodau oedran. Gallwn ddarparu swmp o’r adnoddau hyn yn ddi-dâl i ysgolion a cholegau. Mae pynciau dan sylw’n cynnwys Sut mae’r UE yn Gweithio, Ieithoedd, Newid yn yr Hinsawdd, a mwy. Mae mwyafrif yr adnoddau ar ffurf brintiedig ond mae DVD, CD-ROM a chlipiau fideo ar gael mewn rhai pynciau.

Mae amrywiaeth o bosteri ac eitemau eraill y bydd modd eu defnyddio mewn arddangosfa ystafell ddosbarth.

Cynhwyswyd ffurflen archebu. Os oes pwnc heb ei drafod neu un y byddech yn hoffi gweld mwy arno, cofiwch sôn wrthym a gallwn ddweud wrthych beth arall sydd ar gael.

Mae modd darparu’r rhan fwyaf o gyhoeddiadau mewn amrywiaeth o ieithoedd fel Pwyleg, Portiwgaleg, Ffrangeg, Almaeneg ac ati ac mae rhai ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn. O bryd i’w gilydd bydd cyhoeddiadau’n mynd allan o brint. Os digwydd hyn gyda’ch archeb byddwn yn gadael i chi wybod pa rai sydd heb fod ar gael dros dro.

Cefnogaeth

Gallwn gynorthwyo gyda gweithdai, Diwrnodau Ewrop ac Wythnosau Ewropeaidd. Gall hyn fod yn weithdai rhyngweithiol gyda disgyblion o sesiynau crefft, cwisiau neu gyflwyniadau, i gyd wedi’u llunio i gynyddu gwybodaeth a dysgu am agwedd arbennig ar ddinasyddiaeth neu’r UE. Mae modd addasu holl sesiynau i’ch anghenion ac i oed y disgyblion. Os mai dim ond adnoddau ar gyfer gwers, arddangosfa ystafell ddosbarth neu brosiect sydd arnoch eu hangen gallwn ddarparu’r rhain hefyd.

Taflen Newyddion Ysgolion

Mae Ewrop Uniongyrchol Wrecsam yn cynhyrchu taflen newyddion unwaith y flwyddyn ar gyfer ysgolion. Mae’r daflen newyddion hon yn diweddaru ysgolion ar gyhoeddiadau, adnoddau a chynlluniau newydd sydd ar gael iddynt oddi wrth Ewrop Uniongyrchol neu gyrff eraill.

Taflen newyddion

Taflen newyddion 2011 - Fformat PDF 721Kb

Taflen newyddion 2010 - Fformat PDF 561Kb

Taflen newyddion 2009 - Fformat PDF 452Kb

Taflen newyddion 2008 - Fformat PDF 491Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Cysylltu ag Ewrop Uniongyrchol

Ewrop Uniongyrchol Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU
Ffôn: 01978 292090
E-bost: europedirect@wrexham.gov.uk
Dangos map lleoliad

Ffurflen Ymateb ac Ymholiadau Ewrop Uniongyrchol

yn ôl i'r brig