

Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd yw cartref Mediatheque cyntaf Cymru, gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda’r BFI. Mae’n cynnig tua 1800 o ffilmiau a rhaglenni teledu cyflawn, gan gynnwys mwy na 100 o Gymru, gyda rhai o’r rhain yn dod o Archif Sgrîn a Sain Cymru. Mae’r BFI Mediatheque ar agor chwe diwrnod yr wythnos a gall pawb ei ddefnyddio AM DDIM.
Mae’r ‘jiwcbocs digidol’ o ffilmiau a rhaglenni teledu yn cynnwys llawer o’r teitlau gorau a mwyaf anghyffredin o Archif Genedlaethol y BFI. Cewch edrych eto ar glasuron ffilm a theledu Prydeinig a darganfod pethau newydd – dim ond mewn BFI Mediatheque y gallwch chi wylio dros 85% o’r teitlau, ac mae’r casgliad yn tyfu o hyd.
Dydd Llun i Dydd Gwener, 9.00 – 7.00
Dydd Sadwrn, 9.00 – 4.00