Merched Prydeinig ‘gartref’ yn ystod y rhyfel.

Nid oes cymaint â hynny ers pan oedd gan wragedd tŷ nifer o resymau da iawn dros fod mewn anobaith. Nid yn unig roeddent yn gorfod gofalu am eu teuluoedd mewn cyfnod o ddirwasgiad, rhyfel a chyni, ond gwnaethant hynny heb nwyddau a ystyriwn bellach yn hanfodol. Mae Greddf Gwraig yn gasgliad o ffilmiau o Archif Genedlaethol y BFI sy’n edrych ar fywydau gwragedd tŷ Prydai ar hyd y degawdau – ac yn cynnig cyngor iddynt.
Mae’r casgliad yn cynnwys dramâu, ffilmiau dogfennol, cylchgronau sinema, ffilmiau propaganda a hysbysebion. Mae hefyd yn rhoi lle amlwg i ffilmiau gan ddwy o’r merched a gynorthwyodd i lunio mudiad dogfennol Prydeinig y 1930au a’r 1940au - Ruby Grierson (1904-40) a Kay Mander (1915-).
Robin Baker
Prif Curadur, Archif Genedlaethol y BFI