Ar ôl deugain mlynedd mae’n bryd taflu eich Birkenstocks, gwisgo blodau yn eich gwallt a chofio sut y nododd Prydain yr Haf o Gariad.
Ni allai Prydain ddianc rhag yr hipis yn 1967. Hon oedd blwyddyn cân fawr Scott McKenzie San Francisco, cafftanau, cariad rhydd a phaent corff. Ond dim ond misoedd wedyn goddiweddwyd grym blodau gan wahanol fath o wrthryfel ar ffurf terfysgoedd myfyrwyr.
Hefyd ym 1967 derbyniodd y Senedd Ddeddf Erthylu David Steel a roddodd fwy o ryddid rhywiol i ferched – ynghyd â dyfodiad y bilsen atal cenhedlu. Ac, o’r diwedd, gyda Deddf Troseddau Rhywiol, gwnaed cyfathrach rywiol gytûn yn gyfreithlon rhwng dau ddyn 21 oed neu hŷn (ac yn y dirgel) – o leiaf, os oeddech yn digwydd byw yng Nghymru neu Loegr.
Nid oedd newid ym Mhrydain bob amser yn digwydd ar unwaith, ond mae’r casgliad bach hwn o ffilmiau yn agor ffenestr ar rai o newidiadau, hwyliau, ffasiynau ac agweddau’r cyfnod.