Cynghrair Niwrolegol Wrecsam

Sefydlwyd fforwm sy’n ymwneud â materion niwrolegol i bobl leol. Mae’r grŵp yn cyfarfod pob mis a’i enw yw Cynghrair Niwrolegol Wrecsam (NAW).

Mae’r aelodau yn cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau sy’n dioddef ystod eang o gyflyrau meddygol gan gynnwys clefyd Parkinsons, Sglerosis Ymledol (MS), Clefyd niwronau motor, Spina Bifida, Eplilepsi, Enceffaleitis, Parlys Uwchniwclear Cynyddol, anaf caffaeledig i’r ymenydd, strôc a meigryn.

Sefydlwyd y gynghraidd oherwydd bod pobl sy’n gysylltiedig neu’n dioddef o’r clefydau hyn yn teimlo eu bod yn wynebu mwy o anawsterau i gael mynediad at y gwasanaethau maent eu hangen. Mae’r fforwm yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaethau i gyfarfod â’r gwasanethau cymdeithasol a swyddogion comisiynu’r bwrdd iechyd lleol i drafod eu anghennion ac i weithio tuag at wella darpariaeth y gwasanaethau’n lleol.

Mae NAW yn gysylltiedig â Chynghrair Niwrolegol Cymru ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth is sawl fforwm tebyg arall gael ei sefydlu yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Ar  6ed Medi 2007 bydd aelodau o’r fforwm yn rhoi cyflwyniad i feddygon teulu lleol fel hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaol yn y Sefydliad Meddygol – y tro cyntaf i ddefnyddwyr y gwasanaethau gael eu gwahodd i’r digwyddiad.

Cynhellir cyfarfodydd y fforwm yn Neuadd y Dref, Wrecsam ac maent yn agored i unrhywun sydd â diddordeb mewn materion niwrolegol.

An ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Janet Williams
Hwyludyeff Iechyd a Gofal Cymdeithasol
AVOW
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ND.

Ffôn: 01978 312556
Ebost: janet.williams@avow.org

yn ôl i'r brig