Mae Gorchymyn Llidiartu’n caniatáu codi adwyau i gyfyngu ar fynediad ar hyd hawl dramwy gyhoeddus naill ai bob amser neu ar adegau penodol ar sail y diffiniad yn y Gorchymyn.
Ni fwriadwyd mai gorchmynion llidiartu fyddai’r dewis cyntaf i’w ystyried wrth fynd i’r afael â phroblemau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dylid edrych yn llawn ar ddulliau trin eraill yn gyntaf, fel mwy o batrolau’r heddlu, darpariaeth ar gyfer ieuenctid a goleuo strydoedd yn well.
Gall unrhyw unigolyn, grŵp neu sefydliad wneud cais am orchymyn ond bydd ymgynghori â’r gymuned leol fel rhan o’r proses ymgeisio.
Os bydd cais cyntaf am orchymyn llidiartu’n cyrraedd y meini prawf angenrheidiol mae tâl gweinyddol o £2000 i’w dalu nad oes modd ei ad-dalu.
Os bydd cais yn dderbyniol, yr amcangyfrif yw y bydd costau dylunio, archwilio a chyfreithiol yn £1660 a gwneud a gosod yr adwyau yn £1000 o leiaf. Gallai’r ail gost hwn gynyddu i £4000 yn dibynnu ar faint a nifer yr adwyau yn y cais. Y ceisydd sydd i dalu’r costau hyn i gyd.
Ni neilltuwyd unrhyw arian gan y Cyngor hyd yn hyn.
Dim ond am gyfnod o 12 mis y mae gorchmynion llidiartu’n berthnasol ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydd gwaith cloriannu’n digwydd i weld a fuont yn effeithiol neu beidio. Ar yr adeg hon byddai’n cael ei ystyried a ddylid tynnu’r adwyau neu eu gadael.
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar gywirdeb y wybodaeth a ddarparwyd ond mae’r broses yn cynnwys cyfnod byrraf o 28 diwrnod i ymgynghori â’r cyhoedd. Bydd cyfarfodydd panel llidiartu wedi cael eu trefnu (gwelwch y dyddiadau ynghlwm) fydd yn gyfrifol am brosesu’r cais ar ôl y cyfnod gwirio dechreuol.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd yma neu, i gael trafodaeth anffurfiol am y polisi neu ffyrdd eraill o ymladd yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch ag Alison Smallwood, Uwch-swyddog Diogelwch Cymunedol, ar 01978 317025.
Polisi a Gweithdrefn Gorchymyn Llidiartu
Mae'r dogfen ar gael yn y ffyrdd isod:
Polisi a Gweithdrefn Gorchymyn Llidiartu - Fersiwn Word 214Kb ![]()
Polisi a Gweithdrefn Gorchymyn Llidiartu - Fersiwn PDF 225Kb ![]()
Polisi a Gweithdrefn Gorchymyn Llidiartu - Fersiwn Testun Plaen 438Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |