RHYBUDD CYNIGION
Rheoliad 3 Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Llidiartu) (Cymru) 2007)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud Gorchymyn Llidiartu dan Adran 129A (1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”) a holl bwerau galluogi eraill effaith yr hyn fydd cyfyngu drwy gyfrwng adwyau ac ar holl bobl (yn amodol ar eithriadau sy’n cael eu disgrifio isod) yr hawl dramwy gyhoeddus dros y llwybr troed sy’n ffurfio rhan o’r briffordd rhwng Golygfa’r Tŵr a Ffordd Deva, Parc Caia, Wrecsam (“y briffordd”) ar unrhyw adeg.
Caiff y briffordd ei dangos rhwng Pwyntiau A a B ar y cynllun atodol i’r Rhybudd hwn. Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer Pwynt A yw SJ505346 ac ar gyfer Pwynt B yw SJ506347.
Ni fydd defnydd cyfyngedig arfaethedig y briffordd yn berthnasol i unrhyw un sy’n byw neu’n rhedeg busnes yn rhifau 37, 38, 39, 41, 43, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58 Golygfa’r Tŵr fel eiddo ac adeiladau sydd am y terfyn â neu ar bwys y briffordd, i unrhyw bersonél yr heddlu, ambiwlans neu’r gwasanaeth tân yn gweithredu yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol, i unrhyw swyddog ag awdurdod priodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam nac i unrhyw ymgymerydd statudol, ddarparwr nwy, trydan, dŵr neu gyfathrebu sydd angen mynediad at eu cyfarpar yn y briffordd. Os bydd y Gorchymyn Llidiartu’n cael ei wneud, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn caniatáu mynediad i bobl o’r fath i’r briffordd.
Y ffordd arall ar gyfer cerddwyr os bydd y briffordd yn cael ei chyfyngu trwy wneud y Gorchymyn Llidiartu yw ar hyd Golygfa’r Tŵr, Ffordd Cranford a Ffordd Deva, Parc Caia, Wrecsam fel sy’n cael ei ddangos gyda’r llinell ddu solet ar y cynllun atodol i’r Gorchymyn hwn.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i’r Gorchymyn Llidiartu arfaethedig, ynghyd â’r rhesymau sy’n sail iddynt, yn ysgrifenedig at y Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8PG cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn.
Mae copi o’r Gorchymyn Llidiartu arfaethedig ynghyd â’r cynllun yn dangos hyd y briffordd i’w chyfyngu a’r llwybr arall ar gyfer cerddwyr y mae’r Gorchymyn Llidiartu arfaethedig yn berthnasol iddo i’w gweld yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8PG o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am – 5.00pm (4.45pm ar ddydd Gwener).
Dyddiedig y 12 dydd o Fawrth 2010.
Martin Wright, Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau’r Goron
31 Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG
Golygfa’r Tŵr I Ffordd Deva, Parc Caia, Wrecsam 2010
Mae'r ddogfen yma ar gael yn y fformat canlynol:
Golygfa’r Tŵr I Ffordd Deva, Parc Caia, Wrecsam 2010 - Fersiwn PDF 67Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.