Byddwch yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf

Byddwch yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf

Os 'dach chi'n mynd allan i chwarae 'Cast neu Geiniog' ar nos Galan Gaeaf, cofiwch y rheolau yma ac mi gewch chi hwyl a chadw'n ddiogel ar yr un pryd!

  • Peidiwch â mynd i chwarae Cast neu Geiniog heb oedolyn;
  • Ddylech chi ddim ond mynd at ddrysau tai pobl yr ydych chi neu eich ffrindiau yn eu hadnabod
  • Peidiwch â chnocio ar ddrysau tai lle mae arwydd yn dweud ‘DIM Galwyr’
  • Arhoswch mewn mannau sydd wedi’u goleuo efo lampau stryd - ewch a torsh efo chi rhag ofn
  • Arhoswch efo’ch ffrindiau - peidiwch â rhannu'n grwpiau llai oni bai bod oedolyn efo chi
  • Peidiwch â siarad efo pobl ddieithr ar y stryd
  • Peidiwch â mynd i mewn i unrhyw dŷ – arhoswch ar y trothwy
  • Er bod Nos Galan Gaeaf i fod i godi dipyn o arswyd, cofiwch beidio dychryn pobl mewn oed
  • Edrychwch yn ofalus cyn croesi’r ffordd, hyd yn oed os ydych chi’n rhan o grŵp
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hawdd i’ch gweld.

Os ydych yn croesawu galwyr yn eich tŷ, rhowch wybod iddynt trwy lawrlwytho ac argraffu’r poster isod ...


Neb i alw yma os gwelwch - Fersiwn PDF 125Kb

Mae croeso i chi alw gyda phlant mewn gwisg ffansi - Fersiwn PDF 124Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig