Partneriaeth Diogelwch Cymunedo Wrecsam

Cydweithio I Wneud Wrecsam Yn Lle Diogel I Fyw, Gweithio Ac Ymweld

Mae nifer troseddau yn Wrecsam yn lleihau o dipyn i beth. Gostyngodd troseddau cofnodedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam 26% mewn cymhariaeth â’r hyn oeddent yn 2002.

Bydd yr Heddlu a’r Cyngor yn cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill a’r sector gwirfoddol fel Partneriaeth Diogelwch Cymunedol. Maent yn ymrwymo i leihau trosedd ac anhrefn a gwella diogelwch cymunedol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Ein Blaenoriaethau yn 2010/11.

Byddwn yn gwrando ar y farn leol trwy baneli plismona cymdogaeth, paneli dinasyddion a defnyddio gwybodaeth gan bartneriaid.

Ein nodau yw:

  • Lleihau troseddu treisiol gan gynnwys trais teuluol a rhywiol
  • Lleihau byrgleriaeth, lladrad a throseddau eraill o’r fath
  • Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Lleihau aildroseddu trwy weithio gydag asiantaethau sy’n rheoli troseddwyr
  • Lleihau’r niwed mae camddefnyddio sylweddau’n ei achosi i gymunedau, teuluoedd ac unigolion
  • Delio â throsedd ac anhrefn cysylltiedig â chasineb ac annog hysbysu
  • Rhoi sicrwydd a chynyddu hyder y cyhoedd

Partneriaeth Gref

Rydym yn ymrwymo i wrando ar anghenion cymunedau ac ymateb mewn ffordd gadarnhaol. Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau’r Heddlu (PCSO) yn gweithio gyda thimau plismona cymdogaeth ar hyd a lled yr ardal i fod yn amlwg iawn ac ar gael i’r cyhoedd a chael cymdogaethau diogel a sicr. Mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor wedi cytuno i gyfrannau’n ariannol at y cynllun dros y tair blynedd nesaf.

Dangosodd arolwg diweddar gan Heddlu Gogledd Cymru o hyder y cyhoedd bod canran uwch o drigolion Wrecsam (70%) yn cytuno bod yr heddlu a’r cyngor lleol yn delio’n effeithiol â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol.

Cysylltiadau

yn ôl i'r brig