Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol (Cymru)

 

Logo NCMARhwydweithiau Gwarchod Plant Cymunedol

Y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol (Cymru)

Cyfle newydd i Warchodwyr Plant Cofrestredig

Ers blynyddoedd lawer, bu gwarchodwyr plant yn rhan o rwydwaith gofal o fewn y gymuned, a oedd yn darparu cyfleuster hyblyg y gallai rhieni a oedd yn gweithio ei ddefnyddio. Yn ddiweddarach bu'r awdurdodau lleol yn defnyddio'r gwarchodwyr plant fwyfwy, ar gyfer math o ofal ataliol. Oherwydd eu hawydd i osgoi gosod plentyn mewn gofal pan nad yw'n gwbl angenrheidiol, dechreuodd rhai awdurdodau lleol ddefnyddio'r gwarchodwyr plant mewn ffordd a oedd yn gwbl ddigefnogaeth.

Bu'r Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol yn edrych ar bwysigrwydd y math hwn o warchod, ac o ganlyniad dechreuodd recriwtio gwarchodwyr i'w hyfforddi'n arbennig i ymgymryd â'r gwaith sydd dan sylw.

Bu'r rhwydweithiau hyn yn llwyddiant ers blynyddoedd ym mhob rhan o Loegr, ac y mae'r Gymdeithas bellach yn sefydlu Gwarchod Plant Cymunedol yn Sir y Fflint.

Nod Gwarchod Plant Cymunedol yw cefnogi teuluoedd a phlant sydd mewn angen, a bydd yn fodd i atal rhai teuluoedd rhag chwalu. Byddwn y darparu gofal ychwanegol ar gyfer plant y tybir eu bod yn wynebu risg o niwed corfforol neu esgeulustod, yn methu â phrifio neu'n cael gofal rhieni gwael neu annigonol.

Byddwn mewn sefyllfa hefyd i gynorthwyo plant dan anabledd, rhieni a phlant sydd dan bwysau, rhai gydag anawsterau iaith a lleferydd, ac achosion lle mae'r rhieni'n analluog dros dro.

Lles y plentyn yw'r ystyriaeth oruchaf.

Er mwyn sicrhau hynny, mae safon uchel o warchod yn ofynnol, ac felly darperir hyfforddiant cyflawn yn ogystal â chefnogaeth barhaus.

Bydd y gwarchodwyr plant yn ymgymryd â'r gwaith ar y sail "os a phan fo'n ofynnol", yn ychwanegol at eu gwaith gwarchod arferol.

Cydgysylltydd y Rhwydwaith Gwarchod Plant Cymunedol a fydd yn delio â'r atgyfeiriadau, a anfonir trwy'r awdurdodau lleol; a'r Cydgysylltydd hefyd fydd yn chwilio am warchodwyr plant cymunedol addas i ymgymryd â'r gwaith gwerthfawr hwn.

Llythyr enghreifftiol

Y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol
Swyddfa 2
Adeilad Adnoddau Chwarae
Canolfan Parc Caia
Prince Charles Road
Wrecsam
LL13 8TH

Hoffwn gyflwyno fy hunan.

Fy enw yw Linda Jones ac fe'm cyflogir gan y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol, yn Gydgysylltydd Rhwydwaith ar gyfer y Cynllun Gwarchod Plant Cymunedol yn Wrecsam, a gyllidir gan Cychwyn Cadarn

Mae'r Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol, sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda Chychwyn Cadarn, o'r farn bod Gwarchod Plant Cymunedol yn gweithio'n well pan fo strwythur rhwydwaith eisoes wedi ei sefydlu. Ein nod yw darparu sicrwydd ansawdd arbenigol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Awdurdodau Iechyd, y gwasanaeth Addysg ac eraill yn ôl y gofyn. Mae hyblygrwydd y gwarchodwr plant yn golygu y gellir addasu'r gwasanaeth i fodloni unrhyw ofynion penodol.

Llwyddodd y cynllun eisoes i gynorthwyo teuluoedd yn ardal Wrecsam sydd mewn angen, neu lle mae plant dan risg. Mae rhieni ifainc a dibrofiad hefyd wedi cael budd o gefnogaeth Gwarchodwr Plant Cymunedol, boed hynny am gyfnod byr yn unig.

Cynlluniwyd y pecyn hwn i roi rhywfaint o wybodaeth i chi am Cychwyn Cadarn ac am y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol. Mae hefyd yn esbonio'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer gwneud lleoliad, a'r gwaith papur angenrheidiol.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn i'w ofyn mae croeso ichi gysylltu â mi ar 01978 314433.

Y Broses Atgyfeirio darllenwch hwn, os gwelwch yn dda, cyn llenwi'r ffurflen.

Mae'r ffurflen gais ar gyfer Atgyfeirio i'r Cynllun Gwarchod Plant Cymunedol ar gael i chi ei llwytho i lawr yn y fformatau canlynol:

Y Broses Atgyfeirio - Fersiwn Word - 178Kb

Y Broses Atgyfeirio - Fersiwn PDF - 83Kb

Y Broses Atgyfeirio - Testun Plaen - 754Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Ymwelydd Iechyd
Cychwyn Cadarn Addysg
Homestart
NCMA
Cymru PPA
Adnabod Awtistiaeth yn Gynnar
Cyswllt
surestart.gov.uk
Cysylltiadau Plant
Cymuned a Bywyd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint