Digwyddiadau'r Nadolig 2011

Cynnau Goleuadau'r Nadolig, Sgwâr y Frenhines

17 Tachwedd, 6pm – 6.45pm

Gydag Andy Scott Lee, Dale Howard ac Alison Crawford.

  • 4pm: Cerddoriaeth gan Calon FM
  • 5.15pm: Dewch draw I weld Ant ac Al, y deuawd doniol o Stwnsh (S4C) am ddigonedd o hwyl gwallgo' a chystadlaethau gwirion!
  • 6.15pm – 6.45pm: Dewch I fwynhau'r hwyl wrth I oleuadau canol tref Wrecsam gael eu cynnau gan Andy Scott Lee, Dale Howard, Alison Crawford ac aelodau eraill o gast pantomeim Cinderella'r Stiwt. Ydych chi'n credu y bydd llawer o ganu, dawnsio a phethau doniol?? O YDYM WIR!!
    Digwyddiad rhad ac am ddim.

Noddwyd gan ASDA Wrecsam

Wrecsam yn croesawu Siôn Corn I'r dref gyd'ar orymdaith llusernau rhewllyd

1 Rhagfyr, yn cychwyn am 6pm o Ddôl yr Eryrod

Llwbr yr orymdaith: Dôl yr Eryrod, Ffordd Smithfield, Stryt Charles, y Stryt Fawr, Stryt yr Hôb, Stryt y Rhaglaw, Stryt y Dug, Stryt yr Arglwydd, Sgwâr y Frenhines.

Dewch I ymuno â'r Orymdaith Llusernau Rhewllyd a'n helpu I groesawu Siôn Corn I Wrecsam. Bydd yn cyrraedd mewn steil ar sled wedi'I dynnu gan Gŵn Eira a bydd y llusernau'n dilyn y tu ôl iddo. Pan fydd yn cyrraedd Sgwâr y Frenhines bydd adloniant a reidiau ffair yno a bydd ogof Siôn Corn yn agor ar gyfer ymwelwyr cyntaf y flwyddyn. Bydd y ciw yn enfawr, on dos gallwch fod yn amyneddgar, bydd yno bob dydd tan Noswyl Nadolig!

Gwneud Llusernau

I drefnu gwers gwneud llusernau I grŵp, cysylltwch â'r Tim Blwyddyn Diwylliant ar 01978 667320 (y cyntaf i'r felin).

Gwersi gwneud llusernau yn Oriel Wrecsam

  • Dydd Llun 21 Tach, 3.30pm – 5.30pm (galw heibio)
  • Dydd Iau 24 Tach, 5pm – 6.30pm
  • Dydd Sadwrn 26 Tach, 1pm – 3pm

Ewch I www.yearofculture.co.uk I gael cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud llusernau

Ebost:oriel.wrecsam@wrexham.gov.uk

Ogof Santa

Amseroedd Agor

Dydd Gwener 2 - Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr

  • Llun, Mawrth, Mercher, Gwener: 11am – 5pm
  • Iau: 11am – 7.30pm
  • Sadwrn: 10am – 5pm
  • Sul: 11am – 4pm
  • Noswyl Nadolig: 10am -12 y pnawn

£3.50 y plentyn.

Marchnad Nadolig Wrecsam, Stryt yr Eglwys ac Eglwys San Silyn, Wrecsam

Dydd Iau 8 Rhagfyr, 12.00 canol dydd – 8.00pm.

Bydd marchnad Nadolig flynyddol Wrecsam wedi'i gosod yn y rhan fwyaf atyniadol o ganol y dref, a bydd yn orlawn â mwy na 70 o stondinau a fydd yn llenwi Stryt yr Eglwys a mynwent San Silyn gyda nwyddau megis teganau pren wedi'u creu â llaw; canhwyllau, tlysau, llyfrau gan awduron lleol; crefftau a phob math o roddion; addurniadau Nadolig; coed newydd eu torri; crochenwaith a llawer o gynnyrch lleol, gan gynnwys cacennau, pasteiod, siocledi, cacenni cri yn boeth o'r radell; cwrw seidr, cyffeithiau a sawsiau.

Mynediad am ddim.

Brecwast gyda Siôn Corn

3 a 17 Rhagfyr, Amgueddfa Wrecsam

Dewch I gael brecwast gyda Siôn Corn.

£7 y plentyn (gan gynnwys, brecwast a rhodd), £2.95 I oedolion (yn cynnwys diod a chacen). Rhaid cofrestru o flaen llaw. Tocynnau o Ganolfan Croeso Wrecsam, 01978 292015 neu Amgueddfa, Wrecsam, 01978 297460.

I gael gwybodaeth am Ogof Santa neu unrhyw rai o'r digwyddiadau yma, cysylltwch a'r Tim Blwyddyn Diwylliant, 01978 667 320

Te a Stori gyda Siôn Corn

15 a 20 Rhagfyr, Amgueddfa Wrecsam.

Dewch i ymuno a Siôn Corn I gael te a stori Nadoligaidd.

7.50 y plentyn (yn cynnwys rhodd). Rhaid cofrestru o flaen llaw. Tocynnau o Ganolfan Croeso Wrecsam, 01978 292015 neu Amgueddfa Wrecsam, 01978 297460

I gael gwybodaeth am Ogof Santa neu unrhyw rai o'r digwyddiadau yma, cysylltwch a'r Tim Blwyddyn Diwylliant, 01978 667320 neu Amgueddfa Wrecsam, 01978 297460.

yn ôl i'r brig