Mae rhieni a gofalwyr sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu hannog i roi eu barn a dylanwadu ar gynllun 3 blynedd i wella darpariaeth gofal ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn Wrecsam.
Gosododd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddyletswydd newydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau bod y farchnad leol gofal plant yn diwallu anghenion rhieni a gofalwyr sy’n gweithio, yn arbennig y rhai sy’n derbyn incwm isel, y rhai gyda phlant anabl, neu’r rhai sy’n dymuno i’w plentyn fynychu darpariaeth Gymraeg.
Fel rhan o’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc (CYPP) buom yn gweithio gydag Ymgynghori Melyn i Asesu Digonedd Gofal Plant yn Wrecsam yn 2008. Helpodd hyn i ni nodi cyflenwad a galw ymhob rhan o’r awdurdod a diolchwn i’r rhai ohonoch a gymrodd amser i gwblhau arolwg gofal plant 2008.
Erbyn hyn rydym yn gwneud ein hadolygiad blynyddol o’r Asesiad Digonedd Gofal Plant a byddem yn hoffi cael eich cymorth yn y broses hon er mwyn i ni allu darparu gwell gofal plant ar gyfer rhieni a gofalwyr yn Wrecsam.
Dylid dychwelyd holiaduron wedi’u cwblhau erbyn 18 Rhagfyr 2009.
Arolwg Gofal Plant – Hyblygrwydd y Ddarpariaeth
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol:
Arolwg Gofal Plant – Hyblygrwydd y Ddarpariaeth - Fersiwn Word 155Kb ![]()
Arolwg Gofal Plant – Hyblygrwydd y Ddarpariaeth - Fersiwn PDF 208Kb ![]()
Arolwg Gofal Plant – Hyblygrwydd y Ddarpariaeth - Fersiwn Testun Plaen 295Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Er mwyn ein helpu i ddiwallu anghenion gofal plant teuluoedd yn Wrecsam a fyddech cystal â chwblhau’r ffurflen a’i dychwelyd yn yr amlen radbost a ddarparwyd i:
Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGDW)
Llyfrgell a Chanolfan Gelf Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU.