
Mae harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Mynydd Esclys a Rhiwabon, Dyffryn Dyfrdwy a Chastell y Waun wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol trwy eu cynnwys yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Cadarnhawyd y dynodiad gan Lywodraeth Cymru ar 22 Tachwedd 2011 ac yn ffurfio estyniad i AHNE Bryniau Clwyd a ddynodwyd yn 1985.
Mae’r dynodiad yn cydnabod bod gan sir Wrecsam rai o’r tirluniau gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gosod rheolau cynllunio statudol yn eu lle a chynllun rheoli i hybu cadwraeth a chyfoethogi harddwch naturiol yr ardal.
Mae polisïau cynllunio Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam wedi rhoi pwyslais cryf ar gadwraeth y tirwedd a chyfoethogi’r ardal ers 1996, yn cynnwys rheoli datblygu a fyddai’n effeithio ar gymeriad y tirlun a golygfeydd ac yn ei gwneud yn ofynnol cael safon uchel o ddylunio a phlannu i sicrhau integreiddio i’r tirlun.
Nid yw dynodi’r ardal yn AHNE yn newid y dull yma o ymdrin â rheoli datblygu. Serch hynny, byddai unrhyw gynigion datblygu sylweddol yn cael eu harchwilio’n drwyadl i fesur eu heffaith potensial ar yr harddwch naturiol. Nawr bydd angen caniatâd cynllunio ar y cwmnïau cyfleustodau statudol hefyd ar gyfer mastiau telegyfathrebu a llinellau pŵer.
Mae rhai hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu diddymu mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ond mae’r broses Hysbysiad Amaethyddol yn parhau yr un fath.
Mae Canllawiau Cynllunio a Dylunio Atodol ar gyfer yr AHNE yn cael eu paratoi ar gyfer yr ardal, ac mae’n debygol y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn yng Ngwanwyn 2012.
Mae croeso i chi ffonio’r Adran Gynllunio ar 01978 292485 os oes gennych chi gwestiwn ynghylch cynllunio.
Un o’r prif newidiadau i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecam fydd Cynllun Rheoli’r AHNE. Datblygir hwn trwy’r Cyd-gyngor Ymgyngorol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a grwpiau â diddordeb. Ni fydd hwn yn rheoli sut y defnyddir tir, ond yn hytrach bydd yn nodi rhinweddau arbennig yr ardal ac yn ceisio mynd i’r afael â’r pwysau ar yr harddwch naturiol a chyfoethogi elfennau’r tirwedd megis gwrychoedd, waliau, coed a nodweddion bywyd gwyllt.
Mae’r gwaith o wneud y gwelliannau hyn yn cael ei wneud gan dirfeddiannwyr a grwpiau cymunedol â diddordeb yn y maes hwn, gydag arweiniad a chefnogaeth gan yr Uned AHNE, partneriaid Awdurdod Lleol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae croeso i chi ffonio Swyddog Tirwedd y Cyngor ar 01978 292478 os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Fformat PDF 1.7Mb![]()
Cyngor Cefn Gwlad Cymru – www.ccgc.gov.uk
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.