Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cydlyniad Cymunedol - Ymgynghoriad 11 Mawrth - 3 Mehefin 2008
Dyma Strategaeth Cydlyniad Cymunedol gyntaf Wrecsam. Mae’n darparu fframwaith strategol ar gyfer cydlyniad cymunedol ar gyfer y tair blynedd nesaf 2008-2011. Cafodd ei datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol yn Wrecsam gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
Mae'r Strategaeth yn rhoi cyfle i sefydlu dealltwriaeth fwy eglur o'n cymunedau, a chael cyfathrebu mwy effeithiol â hwy er mwyn mynd rhagddo â gweithgareddau cydlyniad penodol. Mae'n cydnabod bod cydlyniad cymunedol yn brosiect tymor hir, a bydd yr hyn a ddysgir trwy roi'r Strategaeth gychwynnol hon, a'r cynllun gweithredu, ar waith yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gweithredoedd yn y dyfodol.
Mae cydlyniad cymunedol yn ymwneud â mynd ati i hybu perthnasau da rhwng pob 'cymuned' o ran oed, rhyw, ffydd, hil a thueddfryd rhywiol, iaith ac anabledd. Fodd bynnag, bydd y Strategaeth Cydlyniad Cymunedol gyntaf hon yn canolbwyntio'n bennaf ar gydlyniad mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â hil ac ethnigrwydd.
Ein bwriad yw y bydd y strategaeth Cydlyniad Cymunedol gyntaf hon yn:
- Mynegi'r glir sut y byddwn, yn ystod 3 blynedd gyntaf y Strategaeth, yn datblygu prosesau i gyfathrebu'n fwy effeithiol â'n cymunedau amrywiol. Bydd hyn yn ein helpu i lunio ein strategaethau yn y dyfodol ac yn darparu gwybodaeth ar eu cyfer;
- Mynegi'r glir sut fydd gwybodaeth linell sylfaen am gydlyniad cymunedol yn cael ei chasglu a'i rhannu;
- Mynegi’n glir rhywfaint o weithredu uniongyrchol a fydd yn cefnogi cydlyniad ar lefel gymunedol; a
- Dangos sut byddwn yn monitro ein cynnydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn dweud y gwnawn.
Rydym yn gwybod y bydd yn cymryd amser hir i ddatblygu darlun o gydlyniad lleol ac y bydd hyn yn cynnwys ein holl gymunedau. Gan ddefnyddio eich adborth i'r Strategaeth ddrafft hon byddwn yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig yn lleol a'r hyn mae'n rhaid i ni ei wneud i gefnogi cydlyniad yn Wrecsam.
Byddwn yn anfon y Strategaeth a Chynllun Gweithredu drafft i amrywiaeth eang o bobl iddynt gynnig sylwadau arnynt, o 11 Mawrth hyd 3 Mehefin 2008. Bydd hyn yn caniatáu 12 wythnos i sefydliadau a grwpiau ar draws y Bwrdeistref Sirol roi gwybod inni beth yw eu barnau. Cynhyrchwyd holiadur i chi ei lenwi – bydd hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir. Os ydych eisiau dweud unrhyw beth wrthym sydd heb ei gynnwys ar yr holiadur, edrychwn ymlaen at ei dderbyn, ac mae gofod ar gyfer hyn yn yr holiadur.
Byddwn yn gwneud y newidiadau gofynnol cyn cyhoeddi’r Strategaeth a Chynllun Gweithredu terfynol ym mis Medi 2008.
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol - holiadur ar-lein
Dyddiad olaf i dderbyn ymatebion: 3 Mehefin 2008
Dogfennau ymgynghori Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cydlyniad Cymunedol:
Mae’r dogfennau hyn ar gael i’w llwytho i lawr yn y fformatau canlynol:
- Strategaeth Cydlyniad Cymunedol
- Cynllun Gweithredu
- Holiadur ymgynghori
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol (CRYNODEB)
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol (CRYNODEB) - fersiwn Word 57Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol (CRYNODEB) - fersiwn PDF 78Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol (CRYNODEB) - fersiwn RTF 84Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol - fersiwn Word 252Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol - fersiwn PDF 410Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol - fersiwn RTF 791Kb 
Cynllun Gweithredu
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Gweithredu - fersiwn Word 364Kb 
Cynllun Gweithredu - fersiwn PDF 337Kb 
Cynllun Gweithredu - fersiwn RTF 860Kb 
Holiadur ymgynghori
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Holiadur ymgynghori - fersiwn Word 57Kb 
Holiadur ymgynghori - fersiwn PDF 77Kb 
Holiadur ymgynghori - fersiwn RTF 96Kb 
Strategaeth Cydlyniad Cymunedol - holiadur ar-lein
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|