Ymgynghori Ynglŷn â Sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg ei Chyfrwng yng Ngwersyllt

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol newydd Gymraeg ei Chyfrwng yn ardal Gwersyllt.  Mae darn o dir wedi ei glustnodi yn ymyl Rhodfa Delamere ac mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roi.  Dibyn yr ymgynghoriad hwn yw darganfod barn y gymuned, rhai a allai ddefnyddio’r ysgol a rhanddeiliaid eraill o bwys.

Ym mis Mai 2010 penderfynodd y Bwrdd Gweithredol gefnogi cais i’r Grant Gwella Adeiladau Ysgol (Cyfran 3) am arian i ddarparu ysgol gynradd gyda lle i 210 o ddisgyblion, wedi ei adeiladu o’r newydd, yn Rhodfa Delamere, Gwersyllt.  Mae’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymeradwyo, mewn egwyddor, cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am grant cyfalaf i ddarparu Ysgol Gymraeg ei Chyfrwng newydd yng Ngwersyllt ac oherwydd ei fod yn gais llwyddiannus, byddant yn dyrannu cyllid i ni hyd at 70% o’r costau rhagamcanol.

Byddai’r ysgol newydd Gymraeg ei chyfrwng yn diwallu galw lleol yn yr ardal.  

Er bod arwyddion bod galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli yng nghymunedau Gwersyllt, Bradle a Llai wedi eu cadarnhau trwy arolwg a gynhaliwyd gan Opinion Research Services yn 2007, profwyd bod gwir alw trwy gymryd 90 o leoedd ychwanegol yn Ysgol Plas Coch tros y tair blynedd a aeth heibio.  Darparwyd y lleoedd ychwanegol hyn mewn ystafelloedd tros dro.  O ganlyniad i hyn, y gofyn am ddarpariaeth ychwanegol o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal ogleddol y Sir yw’r flaenoriaeth gyntaf ar hyn o bryd yng Nghynllun Rheoli Asedau Addysgol Wrecsam ar gyfer 2009 - 2014.

Mae’r Awdurdod Lleol wedi cynyddu nifer derbyn Ysgol Plas Coch tros dro i ymdopi â mwy na dwywaith ei nifer derbyn arferol.  Mae nifer gynyddol o ddisgyblion nawr mewn ystafelloedd tros dro o ganlyniad i hyn.

Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad cyhoeddus rhagwelir y bydd yr ysgol newydd yn agor ym mis Medi 2013.    

Rhybudd Statudol i sefydlu ysgol Gynradd Gymunedol cyfrwng Cymraeg 3-11 newydd o 1 Medi 2013 yn Rhodfa Delamere Gwersyllt

Rhybudd Statudol i sefydlu ysgol Gynradd Gymunedol cyfrwng Cymraeg 3-11 newydd o 1 Medi 2013 yn Rhodfa Delamere Gwersyllt - fformat PDF 791Kb

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg - fformat PDF 67Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word


Cwestiynau Cyffredin am Ymgynghori Ynglŷn â Sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg ei Chyfrwng yng Ngwersyllt


Allwch chi egluro'r broses ymgynghori?

Byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd (dyddiad ymlaen er mwyn rhoi digon o rybudd) er mwyn trafod darparu ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng yn ardal Gwersyllt.  Byddwn hefyd yn defnyddio’r we i gasglu sylwadau barn pobl.   
Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn i ni yn y cyfarfodydd hyn, ymateb ar-lein neu ysgrifennu eich ymateb.

Dylid anfon llythyrau ymateb at Dafydd Ifans, Uwch Swyddog Gwella Ysgolion, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG erbyn 8fed Medi 2011.

Bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i’ch sylwadau mewn cyfarfod i’w gynnal Medi 2011 a byddant yn dod i benderfyniad ynglŷn â chyhoeddi’r bwriadau ai peidio. 

Os penderfynir bwrw ymlaen â’r bwriad, mae’n debygol y cyhoeddir rhybuddion statudol yn y tymor haf.

Bydd rhybuddion yn ymddangos yn papur newydd ac ar hysbysfyrddau yng nghyffiniau Rhodfa Delamere.

Unwaith y bydd rhybuddion wedi eu cyhoeddi bydd cyfnod o fis i ymateb yn ysgrifenedig.  Hwn yw’r cyfnod statudol ar gyfer gwrthwynebiadau.  Dylid anfon gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig at Dafydd Ifans, Uwch Swyddog Gwella Ysgolion, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG erbyn 8fed Medi 2011.

Os nad oes gwrthwynebiadau, bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn penderfynu ynglŷn â’r bwriad dau fis wedi dyddiad cyhoeddi’r rhybudd.   

Os oes gwrthwynebiadau, yna bydd y Gweinidogion Cymreig yn penderfynu ynglŷn â’r bwriadau.  Mae gan yr ALl/Hyrwyddwyr bythefnos wedi diwedd y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r gwrthwynebiadau i’r Gweinidogion Cymreig.   

Gellir disgwyl penderfyniad y Gweinidogion Cymreig oddeutu 3 mis wedi cyflwyno’r gwrthwynebiadau a’r sylwadau ynglŷn â hwy.

Sut fedraf roi fy marn ynglŷn â'r ymgynghoriad yma?

Rhowch ymateb ar-lein o danodd os gwelwch yn dda neu eich ymateb yn ysgrifenedig.  

Dylid anfon llythyrau ymateb at Dafydd Ifans, Uwch Swyddog Gwella Ysgolion, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG erbyn 8fed Medi 2011.

Efo pwy maen nhw'n ymgynghori?

Rydym yn ymgynghori gyda’r gymuned, darpar ddefnyddwyr a rhanddeiliaid eraill o bwys.  Byddwn yn cynnal cyfarfodydd ar gyfer disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn Ysgol Plas Coch oherwydd mai ar y carfanau hyn y mae’n fwyaf tebygol y bydd yn effeithio’n uniongyrchol.  Hefyd, byddwn yn ymweld â Chylchoedd Chwarae Cymraeg eu Cyfrwng yn yr ardal.

Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal ac eraill â budd neu ddiddordeb.  Cyhoeddir manylion y cyfarfod hwn yn agosach at yr amser.  

Pam mae ar y Cyngor eisiau i'r ysgol yma gael ei chodi yng Ngwersyllt?

Mae’r galw wedi bod yn cynyddu yn Wrecsam am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn Ysgol Plas Coch yn arbennig, nid oes digon o le ar gyfer y galw hwn. Mae cyfanswm o 154 o ddisgyblion gyda chodau post yng Ngwersyllt, Llai a Bradle yn mynd i Ysgol Plas Coch.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hyn o Wersyllt.  Ers sefydlu ystafelloedd tros dro yn Ysgol Plas Coch mae niferoedd y disgyblion wedi codi i 48 yng Nghyfnod Allweddol 1 a 56 yn y Blynyddoedd Cynnar.  Mae’r Awdurdod Lleol yn credu y bydd ysgol yng Ngwersyllt yn diwallu’r galw lleol.

Pam mae'r Cyngor wedi penderfynu y dylid codi'r ysgol newydd efo lle i 210 o ddisgyblion?

Byddai Ysgol Plas Coch yn derbyn 30 yn llai o leoedd y flwyddyn unwaith y byddai ysgol newydd wedi ei sefydlu.  Mae’n ymddangos bod galw am 26 o leoedd yn lleol ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, pe byddai’r ysgol newydd wedi ei chodi ar gyfer 26 o ddisgyblion ni fyddai’n darparu digon o leoedd i dderbyn y lleihad o 30 o leoedd ym Mhlas Coch.  Byddai’r pedwar lle ychwanegol yn cael eu llenwi gan ddisgyblion ar gyrion canol y dref sy’n gofyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam mae'r tir yn ymyl Rhodfa Delamere wedi ei glustnodi?

Edrychodd yr Awdurdod Lleol ar nifer o safleoedd yr oedd yn berchen arnynt.  Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i safleoedd eraill y gellid eu prynu.  Y farn oedd bod pob un o’r safleoedd eraill yn anaddas rhyw fodd neu’i gilydd.  Ar wahân i Ganol y Dref, y mae dwy ysgol Gymraeg eu cyfrwng yn ei wasanaethu ar hyn o bryd, yn ac o amgylch ardal Gwersyllt roedd y galw mwyaf am leoedd yn Ysgol Plas Coch.  Oherwydd hyn, roedd y rhan fwyaf o’r safleoedd a ystyriwyd yng Ngwersyllt ei hun, er bod safle yn Llai wedi ei ystyried hefyd.

Y duedd yw bod disgyblion mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng yn gorfod teithio llai o bellter i gael eu haddysg.  Felly, lle bynnag y mae cyfle i unioni’r annhegwch hwn, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol wneud ymdrech i weithredu ynglŷn â’r mater.  Dylai addysg drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn rhesymol o hygyrch ym mhob rhan o’r wlad.

Sut fyddai'r ysgol newydd yn medru effeithio ar ysgol bresennol fy mhlentyn?

O’r flwyddyn 2013 ymlaen, bydd gostyngiad o 30 o ddisgyblion yn nifer derbyn Plas Coch.  Bydd llai o ysgol feithrin yn mynd i mewn i Blas Coch.  Bydd ystyriaeth i’r lleihad hwn gydag unrhyw gais am fynediad ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill.

Mae fy mhlentyn yn mynd i Ysgol Plas Coch ar hyn o bryd. A fydd rhaid i'm plentyn newid ysgol yn 2013?

Byddwn yn holi barn rhieni disgyblion mewn grwpiau blwyddyn eraill lle bydd yr ysgol arall yn agosach ar symud i’r ysgol newydd.  Os bydd y niferoedd yn ymarferol efallai hefyd y bydd grwpiau blwyddyn eraill yn trosglwyddo ar gais.

Beth fydd maint y grwpiau addysgu?

Y nifer derbyn i’r ysgol newydd fydd 30. Os bydd yr ysgol newydd yn llenwi o’r gwaelod, sef gan ddechrau gydag Ysgol Feithrin yn unig, bydd dosbarthiadau hyd at 30 mewn grwpiau blwyddyn unigol.  Os bydd rhieni yn dewis anfon disgyblion cymwys i’r ysgol newydd o Blas Coch mewn niferoedd digonol, ni fydd y dosbarthiadau yn fwy na 30 ond gallent fod yn grwpiau blwyddyn cymysg i gychwyn.

Sut fydd yr ysgol yn cael ei llywodraethu?

I gychwyn, disgwylir sefydlu ffederasiwn gyda Phlas Coch.  Byddai gan hyn gorff llywodraethol ar y cyd er mwyn sicrhau pontio mor esmwyth ag y bo modd i’r disgyblion.

Sut fydd yr ysgol yn cael ei staffio?

Bydd yr ysgol yn cael ei staffio yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol a Chyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.  Gydag amser, bydd y gofynion am staff yn Ysgol Plas Coch yn mynd yn llai.  Yr un pryd,  bydd angen mwy o staff ar yr ysgol newydd.  Pe byddai’r ddwy ysgol yn rhan o ffederasiwn o ysgolion, yna gallai trosglwyddo staff fod yn fwy syml.

Pa gyfleusterau fydd gan yr ysgol newydd i'r disgyblion?

Bydd gan yr ysgol newydd y cyfleusterau y mae’r ymchwil ddiweddaraf wedi dangos eu bod yn rhoi’r addysg fwyaf effeithiol i ddisgyblion.  Mae hyn yn cynnwys darpariaeth TGCh sy’n hwyluso defnyddio sgiliau ymchwil a dysgu, parthau dysgu hyblyg y mae modd eu had-drefnu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu a chyfleoedd, amgylchedd dysgu awyr agored eang ynghyd ag adeilad ynni-effeithlon.  Bydd yr ysgol hefyd yn gallu cynnig gofal cofleidiol i blant.

Pa gyfleusterau fydd gan yr ysgol newydd i'r gymuned?

Rydym wedi ymrwymo i wneud ysgolion yn rhan annatod o’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.  Bydd lle yn yr adeilad i grwpiau cymunedol fynd i’w defnyddio yn ystod diwrnod yr ysgol a’r tu allan i oriau arferol yr ysgol.

Sut fydd yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod traffig yn cael ei reoli'n briodol a bod ffordd ddiogel i'r plant gerdded i'r ysgol?

Bydd agenda’r ffyrdd diogel i’r ysgol yn derbyn ystyriaeth lawn yn ystod y broses ymgynghori.  Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghori, bydd camau cynllunio yn y dyfodol yn ei gynnwys hefyd.

Beth yw Sefyllfa Llywodraeth Cymru?

Mae gan Llywodraeth Cymru  strategaeth ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys Canlyniad Strategol 1.6  'Hyrwyddo cynnydd yn y gallu i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar a darpariaeth statudol gynradd'.


A oes gennych chi gwestiwn y mae angen ei ateb? Anfonwch e-bost atom os gwelwch yn dda WelshMediumConsultation@wrexham.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG

Rhowch eich Barn ynglŷn â’r Ymgynghoriad hwn

Os oes gennych chi  unrhyw sylw i’w gynnig ynglŷn â’r polisi a fwriedir, llenwch y ffurflen o danodd os gwelwch yn dda.

Mae meysydd wedi eu nodi gyda * yn orfodol. Rhowch un ai gyfeiriad e-bost neu rif ffôn os gwelwch yn dda.   

 Ymgynghori

Eich Manylion
*
Hidlwr Sbam



Pwyswch y botwm CYFLWYNO isod i anfon eich sylwadau.

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol