Ymgynghoriad Gorchymyn Rheoli Cŵn

Yn unol â Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd (2005) gall yr Awdurdod Lleol roi Gorchmynion Rheoli Cŵn ar dir perthnasol ar ôl ymgynghori ar y mater hwn.

Yn dilyn canlyniadau'r ymgynghoriad gwreiddiol, a oedd yn awgrymu bod cefnogaeth gref dros nifer o Orchmynion Rheoli Cŵn penodol i'w rhoi ar waith, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu rhoi'r Gorchmynion canlynol ar waith:

  • Rhoi Gorchymyn Baw Cŵn ar waith ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan i'w gwneud yn bosibl cymryd camau pan fydd pobl yn caniatáu i'w cŵn faeddu a lle na fyddant yn cael gwared ar y gwastraff wedyn.
  • Rhoi Gorchymyn Gwahardd Cŵn ar waith mewn
    • Ardaloedd Chwarae i Blant â Ffensys
    • Ardaloedd Chwarae caeau chwaraeon penodol
    • Lawntiau Bowlio

Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud hi'n ofynnol gwahardd cŵn o'r ardaloedd a restrir uchod yn gyfan gwbl.

  • Rhoi Gorchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn ar waith ar yr holl dir perthnasol yn caniatáu i Swyddog ag Awdurdod ddweud wrth berchnogion i roi a chadw ci ar dennyn lle y bo angen.

Mae uchafswm cosb yn berthnasol os cyflawnir troseddau yn groes i unrhyw rai o'r Gorchmynion y soniwyd amdanynt eisoes wrth gael collfarn o ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 (£1000 ar hyn o bryd). Gellir rhoi rhybudd cosb sefydlog o rhwng £50 a £80 wrth ymdrin â throseddau. Ceir eithriadau i gŵn cymorth.

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam glywed gennych chi gyda'ch sylwadau ar y cynigion uchod a gofynnir i chi ymateb erbyn 30 Ebrill 2009.

I ymateb i'r ymgynghoriad hwn neu am ragor o wybodaeth

Wayne Hughes
Uwch Swyddog Gorfodi'r Amgylchedd
Swyddog Diogelu'r Cyhoedd
Stryt Fawr
Rhiwabon
LL14 6NH

Ffôn: 01978 813741
ebost: environmentalenforcement@wrexham.gov.uk

Nodwch "Ymgynghoriad Gorchymyn Rheoli Cŵn" ar unrhyw ohebiaeth

yn ôl i'r brig